Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser cinio ddyfod, galwyd ef i'w gael ar ei ben ei hun. Ond gofynodd am ei gyfaill, ac wedi iddynt ymesgusodi, dywedodd, "O, galwch ef yn union, ni fwytaf fi ddim hebddo, pregethwr yw ef fel finau," Wedi gweled mewn lle arall rai yn ymdrechu gormod i barotoi ar gyfer ei gorff ef, a cholli ei weinidogaeth, galwodd am laeth, a gadawodd y parotoadau iddynt hwy, a dywedodd, "Dyfod i lawr o Aberystwyth wnaethum i lefaru dros Dduw, ac y mae yn ddrwg iawn genyf mai trafferthu ar fy nghyfer i yr ydych wedi wneyd, yn lle gwrando ar fy ngweinidogaeth." Wedi ychydig o siarad, dywedodd drachefn, "Gellwch fy nghredu fod pob un sydd yn teimlo pwys ei genadwri, yn foddlon iawn i fod ar arlwy waelach iddo ei hun, os bydd yn gweled parch i'w genadwri." Dywedai y wraig oedd yn cael y wers, yn benaf, ymher amser ar ol hyny, "Mae genyf olwg ar y dyn byth, a dangosodd mai ni oedd yn ymofyn, ac nid ein pethau." Gwnaeth lawer i ddysgu yr eglwysi am y dull mwyaf digynhwrf ac esmwyth i fod arnynt wrth gyfranogi o Swper yr Arglwydd. Ac y mae y dull presenol o eistedd yn eu lleoedd wedi cael ei ddwyn oddiamgylch trwy ei offerynoliaeth ef gan mwyaf. Dywedai fod y bobl yn cael gwell cyfleusdra i dderbyn yr elfenau, a gwell hamdden i feddwl, ac yn fwy tebyg i'r disgyblion a Christ, pan yn cyfranogi o'r ordinhad am y tro cyntaf erioed. Dangosai wrthuni yr arferiad o ddyfod i lawr a sefyll i gyd ar eu traed, ac i'r gweinidog ymwthio trwyddynt i gyfranu yr elfenau.

Cenhadaeth fawr ei oes ef, heblaw pregethu yr efengyl, oedd sefyll dros burdeb y ddisgyblaeth, a gofalu am eiddo y Cyfundeb; ac yr oedd cenhadaeth felly yn gofyn barn dda, bod heb ofn dyn, gonestrwydd dros Dduw, a phenderfyniad di-ildio i sefyll dros y gwirionedd. Ni chyflawnodd y pethau hyn heb le i'w feio ar rai achlysuron; ond gellir dweyd am ei feiau ef fel pob dyn mawr arall, eu bod yn dyfod i'r golwg yn y pethau yr oedd ei rinweddau a'i ragoriaethau yn fwyaf amlwg. Pan fyddai rhyw achos o anghydfod, neu rywun wedi troseddu y rheolau, os byddai angen am rywrai heblaw y bobl eu hunain i fod yno, efe a rhywun