Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall fyddai bron bob amser yn gorfod myned. Ac os clywai troseddwyr am dano ef, byddent yn dechreu meddwl o ddifrif am eu sefyllfa. Yr oedd rhai yn achwyn mai yr ochr gyntaf y clywai am dani fyddai yn gymeryd, heb gymeryd digon o ofal am gael gwybod yr ochr arall. Ond y mae yr hanes canlynol yn profi mai gwneyd cyfiawnder a thegwch i bawb oedd ei amcan yn y cwbl, Daeth cwyn am un nad oedd wedi gwneyd ei oreu o blaid tegwch wrth fyned yn fethdalwṛ. Wedi myned i'r lle, cafodd Mr. Jones weled fod y dyn yn euog, a mynodd arwydd yr eglwys i'w dori o fod yn aelod. Cododd y dyn i fyny, a gofynodd am ganiatad i ddweyd gair. Wedi cael hyny, dywedodd, "Yr oeddwn am hysbysu nad wyf yn cyfiawnhau dim o honof fy hun. Yr wyf yn addef fy mod wedi myned i ddyled fawr, ac wedi tynu gwarth ar yr achos, ac nad yw yr eglwys wedi gwneyd â mi ond yr hyn ddylai. Ond goddefwch i mi ddweyd, fod ar y rhai sydd yma ddyled i mi, a'r rhai hyny wedi codi eu llaw i fy nhori i allan. Pe byddai pob un o honynt yn talu ei ddyled i mi, ni buasai arnaf fi ddimai o ddyled i neb." Yr oedd pawb yn gweled Mr. Jones ar y pryd yn dechreu myned yn anesmwyth, ac wedi i'r dyn orphen, gofynodd, "A ydych chwi yn sicr, frawd, o'r hyn ydych yn ddweyd?" atebiad oedd, "Ydwyf yn ddigon sicr, gallaf eu henwi yn awr, os ydych yn dewis." "Wel," meddai Mr. Jones, "deuaf fi yma eto ymhen y mis, a bydded i bawb dalu eu dyled i'r brawd yma yn ystod yr amser, neu bydd raid tori y rhai hyny allan ymhen y mis, a'i gadw yntau i fewn." Tynwyd y ddedfryd ar y dyn yn ol, a gadawyd i'r cwbl i fod yn anmhenderfynol dros y mis. Mawr oedd pryder Mr. Jones ynghylch y peth, a holai yn fynych yn ddistaw, pa fodd yr oedd pethau yn debyg o droi allan. Terfynodd yr achos yn foddhaol; ni fu angen galw am dori neb o'r eglwys, gan fod bron bawb allan o ddyled ymhell cyn bod y mis drosodd.

Teithiodd ganoedd o filldiroedd gydag achosion fel yma, a chyda sicrhau tir a phethau eraill i fod yn feddiant diogel i'r Cyfundeb. Bron bob amser byddai ganddo mewn Cyfarfod Misol ryw brydles i'w harwyddo, neu roddi ryw hysbysiad ynghylch rhai; a byddai