Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob amser wedi ei arfogi yn dda â'r Constitutional Deed, y "Cyffes Ffydd," y "Dyddiadur," yr "Hyfforddwr," Rheolau yr Yegol Sabbothol, a phethau eraill angenrheidiol at gefnogi ei hun yn y materion mewn dadl, a chadarnhau pawb oedd yn bresenol yn yr athrawiaeth a'r ddisgyblaeth, yn ogystal ag yn y pethau cyfreithiol ynghylch tiroedd a chapeli. Arno ef yr oedd y gofal mawr am gael sylw at yr holl bethau a nodwyd. Efe y rhan fynychaf fyddai yn rhoddi y gwahanol gasgliadau gerbron, ac yn cymell y swyddogion i'w rhoddi yn deg o flaen y cynulleidfaoedd. Yr oedd yn agos at William Thomas, Ysw., cyfreithiwr, ac yr oedd gwybodaeth hwnw yn wybodaeth iddo ef, a'i wybodaeth yntau yn wybodaeth i hwnw. Dadl fawr ddiwedd ei oes oedd yr un am briodasau anachaidd. Yr oedd yn anffafriol iddo ef fod hyn ar amser diwygiad 1859, gan fod teimladau yr eglwysi yn dyner, ac yn tueddu at gadw pawb i fewn yn hytrach na'u tori allan Yr oedd yntau am sefyll dros y ddisgyblaeth, a gweinyddu hono yn ol y Beibl, diwygiad neu beidio. Yr oedd llawer yn credu fod y cyndynrwydd a amlygwyd gyda hyn yn yr eglwysi, wedi bod yn gyfnerth mawr i'w glefyd diweddaf, a pheri iddo ddisgyn mewn gofid i'w fedd. Ychydig ddyddiau cyn iddo farw, daeth mewn close carriage i Gyfarfod Misol Blaenplwyf, er mwyn cael cymeradwyaeth y frawdoliaeth yno i dori rhai anachaidd allan. Gydag anhawsder mawr, a thôn isel y siaradai. "Wel, anwyl frodyr," meddai, "yr wyf wedi ymneillduo oddiwrthych er's tro, a gwelwch lle yr wyf yn myned yn gyflym. Dywedaf air o'm profiad wrthych: yr wyf wedi colli ofn marw yn llwyr; mae hyny yn llawer i ddyn sydd yn ymyl marw. Clywais lawer gwaith fod rhai o'r hen dduwiolion ag ofn y nefoedd arnynt, ond ni wyddwn i fawr am hyny hyd yn awr. Y dyddiau hyn, wedi colli ofn uffern, yr wyf yn gwybod beth yw ofn y nefoedd. Yr wyf yn meddwl, yr wyf braidd yn sicr, mai i'r nefoedd y mae y Gwr yn fy nghymeryd; ond O! frodyr anwyl, mae arnaf ofn y purdeb a'r sancteiddrwydd tanbaid sydd ar bawb a phob peth. Mae hyn wedi dyfod a mi i ymddiried yn y drefn fawr yn llwyrach nag erioed. 'Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n