Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwnaeth ni yn gymmys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni,' goleuni! Ië, goleuni! Wel, yr ydych yn gwybod fy neges atoch heddyw (tipyn o gynhwrf gwawdus yn y lle gyda rhai), a rhaid fod y mater yn bwysig iawn, neu ni fuaswn yn gwneyd cymaint o ymdrech i ddyfod o'm gwely." Ymdrechodd ddweyd llawer ar amgylchiadau yr achos y daeth yno o'i herwydd. Yna gofynodd am arwydd i'w tori allan. Arwyddodd amryw, ond nid aeth y dynion allan. "Dyna," meddai yntau, "byddaf yn rhydd i farw bellach, gan i mi gael cyfleusdra i ddweyd, a chynghoraf chwi, frodyr, y swyddogion yma, i sefyll yn gadarn dros Air yr Arglwydd ymhob peth; hyn fydd eich cadernid." Y geiriau fu yn gynhaliaeth mawr iddo yn y glyn yw y geiriau, "Dangosaf iddo fy iachawdwriaeth." Bu farw Awst 29ain, 1861, yn 71 oed, wedi pregethu am 45 mlynedd; ac efe oedd y cyntaf a gladdwyd yn cemetery Aberystwyth.

Dyn tal, teneu, ydoedd, yn sefyll yn hytrach yn gam, wyneb hir, a'r pen yn foel yr amser cyntaf yr ydym yn ei gofio. Yr oedd yn crychu ei dalcen, gan edrych i lawr, a phesychu yn awr a phryd arall, fel pe byddai yn teimlo ei ffordd o hyd wrth siarad. Felly yn y pulpud ac ymhob man.

PARCH. EVAN JONES, CEINEWYDD.

Ganwyd ef yn 1809, a dygwyd ef i fyny yn Parcybrag, Penmorfa. Yn y flwyddyn 1832, dechreuodd bregethu, a hyny bron yr un adeg ag y dechreuodd y Parchn. Daniel Davies Tanygroes, a John Jones, Blaenanerch, sef ar adeg o ddiwygiad crefyddol grymus. Aeth i'r Ysgol Ramadegol a gynhelid yn Llangeitho, athraw yr hon ar pryd hwnw oedd y Parch. John Jones, Saron. Priododd â Miss Jane Evans, Ty'ndolau, Llangeitho, a buont byw yn y Pâl am rai blynyddoedd, pryd yr adnabyddid ef fel Evan Jones, Llangeitho. Ar gymhelliad eglwys y Tabernacl, Ceinewydd, symudodd yno. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1841, yn Llangeitho.