Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn bregethwr cymeradwy gan yr holl eglwysi. Yr oedd o ddawn mwy melus na'r cyffredin, er nad oedd ei lais ond cyfyng, a rhy wanaidd i waeddi ond ychydig. Anaml y byddai heb enill sylw a theimlad ei wrandawyr; ac oblegid hyny, yr oedd galw mawr am dano yn agos ac ymhell. Daeth yn areithiwr ar ddirwest, ac yn holwr ysgol o'r fath oreu. Nid oedd o gyfansoddiad cryf, ac oblegid ei fynych wendid, nid oedd yn gallu ateb agos y galwadau fyddai arno. Yr oedd yn un o daldra cyffredin, gwallt melyngoch, wyneb brychlyd a goleu, a'i lygaid yn drymaidd ac yn sefyll i fewn ymhell yn eu tyllau. Golwg wasgedig fyddai arno, ac yr oedd llesgedd ei gorft yn cyfrif am byny. Bu farw yn 46 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Penmorfa. Bu galar mawr yn yr eglwysi ar ei ol. Brawd iddo oedd y Parch. Ebenezer Jones, Corris, yr hwn a aeth drosodd at yr Annibynwyr; a brawd iddo yw Mr. Owen Jones, blaenor Llechryd. Er mwyn dangos y fath un oedd Mr. Jones, rhoddwn yma ddyfyniad o lythyr o'i eiddo, yr hwn a ysgrifenodd at Mrs. Richard, gweddw y Parch. Ebenezer Richard, Tregaron, pan oedd hi yn byw gyda'i merch yn Aberaeron: "Yr ydych yn clywed am ansawdd fy iechyd yn fynych gan rywrai, ond dim o dywydd fy meddwl yn fy afiechyd; gan hyny, rhoddaf ychydig o hwnw i chwi yn awr. Lled derfysglyd yr oeddwn yn teimlo yn fy saldra mwyaf, fy ymddiried yn Nuw yn fach ar lawer pryd; pan feddyliwn fy mod yn myned i adael y byd, a chefnu ar fy anwyl deulu, byddai gwyntoedd cryfion yn ymryson ar fôr fy meddwl a'm teimladau. Wrth edrych yn wyneb fy mhlant bach, byddwn yn barod i ofyn beth a ddaw o honynt,—maent heb eu magu, ac heb eu dysgu, ac heb un ddarpariaeth yn y golwg tuag at hyny, dim ond eu gadael i drugaredd y tonau. Weithiau byddwn yn ceisio eu anghofio, ond nis gallwn. Ceisiwn ymgysuro yn y meddwl eu bod yn blant i weinidog Methodistaidd, ac oblegid hyny, na chaent ddim cam; ond nid oedd gan y rhai hyny ddim i bwrpas at yr angen fyddai arnynt. Yn ddisymwth, daeth yr adnod hono i fy meddwl, a llonyddodd y dymhestl, 'Gad dy amddifaid, a mi a'u cadwaf hwynt yn fyw, ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.