Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dechreuodd yn awr ar ei waith fel crefyddwr. Wrth ddarllen a gweddio yn ei gartref am y tro cyntaf, bu yn odfa go ryfedd. Wedi darllen penod, arhosodd ychydig cyn myned i weddi. Gan feddwl, hwyrach, y gwnelai yn well heb oleuni celfyddyd, diffoddodd y fam y ganwyll, ac aeth yntau i weddi, a gweddiodd nes y torodd un o'r hen gymydogesau duwiol, oedd yn bresenol, allan i waeddi. Yn un o dai Bronheulwen y gweddiodd yn gyhoeddus gyntaf, pryd torodd allan yn orfoledd mawr. Gan ei bod yn amser diwygiad, yr oedd y cyfarfodydd gweddïau yn aml, a chan ei fod ef mor hynod mewn gweddi, yr oedd y bobl am ei glywed bron ymhob cyfarfod. Cafodd trwy hyny fantais fawr i ddyfod yn well gweddïwr fyth. Yr oedd ei gariad cyntaf, a gwres y teimlad diwygiadol mor gryf, gyda'r llais anghyffredin o beraidd oedd ganddo i waeddi, yn ei wneyd yn well gweddïwr nag a glywodd nemawr neb yn yr ardal. Yr oedd ganddo dalent ragorol, hefyd, i ddynwared pregethwyr, a thraddodi darnau helaeth o'u pregethau. Oblegid y pethau hyn, cymhellwyd ef gan lawer i ddechreu pregethu, a gwnaeth hyny gyntaf mewn cyfarfod gweddi yn Cross Inn, tafarndy y pryd hwnw. Daeth yn bregethwr anghyffredin o boblogaidd ar unwaith, a daeth galw mawr am dano yn agos ac ymhell. Yr ydym yn ei gofio yn y Penant ar noson waith yn pregethu ar y geiriau, "A bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef." Yr oedd hon yn un o'i bregethau cyntaf wedi iddo gael rhyddid i fyned trwy y sir, ac, fel yr ydym yn deall, y bregeth a'i dygodd i boblogrwydd gyntaf. Yr ydym yn cofio bod y capel yn orlawn, ac yntau yn gwaeddi ei destyn yn awr ac eilwaith, nes yr oedd y gynulleidfa yn gyffro drwyddi, ac amryw yn tori allan i waeddi. Mae yn debyg iddo fyned i ysgol a gynhelid yn Aberteifi, er mwyn dysgu ychydig o'r iaith Saesneg. Ond ni fu yno fawr, gan fod y galwadau arno i bregethu yn ormod, ac yntau o'r herwydd, dan orfod i wneyd pregethau newyddion. Beth bynag, cafodd well ysgol i ddysgu Saesneg, trwy ymgysyllu & Mrs. James, Canllefaes, yr hon oedd fwy o Saesnes o ran iaith nag o Gymraes. Aeth i'r fferm hon i fyw am beth amser, yna daeth ef a Mrs. Jones yn ol at ei dad i'r