Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyttir Bach, gan fod hwnw yn hen ac analluog i fyned ymlaen a'r fferm. Ar ol hyn, cododd y ty a elwir Brynhyfryd yn gartref iddo ei hun, a bu yno nes ei symud i'r nefoedd, Ionawr 14, 1875, yn 68 oed, a chladdwyd ef o flaen tapel Blaenanerch.

Yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd a gafodd Cymru, a daliodd ei boblogrwydd yn ddifwlch hyd ei fedd. Ac y mae yn rhyfedd meddwl ei fod mor boblogaidd gartref ag oedd pan ymhell oddiyno. Mae hyny yn brawf o'u parch iddo fel dyn a Christion, yn gystal ag fel pregethwr. Ymhob lle y byddai yn dyfod am Sabbath, yr oedd y son am dano yn cael ei ledaenu trwy yr ardal am wythnosau cyn y Sabbath, yr hyn fyddai mewn canlyniad yn gynyrch parotoadau cyffredinol er dyfod i'w wrando. Byddai y cefftwyr bron o bob math yn llawn gwaith yn gwneyd gwisgoedd newyddion, yn enwedig i'r ieuenctyd; a byddai yn ddigon o reswm gan y rhai hyny dros beidio gwneyd pob peth arall ar y pryd, i ddweyd fod Jones, Blaenanerch, i fod yn y lle a'r lle, ar y pryd a'r pryd. A byddai ei gael i le yn ddigon i godi esgeuluswyr allan am y tro hwnw, ac i gael llawer o enwadau eraill yno. Nid yn unig yr oedd ef yn boblogaidd, ond byddai felly yn nghanol rhai tebyg iddo. Yr oedd cadben llong yn ein hysbysu ei fod ef unwaith yn Nghymanfa y Sulgwyn yn Liverpool, ac mae am Jones, Blaenanerch, yr oedd bron bawb yn siarad, ac mai i'r capel lle y byddai ef yr oedd y rhan fwyaf am fyned. Yr oedd gweinidog o'r Deheudir yn dyfod adref trwy Machynlleth o Gymdeithasfa Bangor, sef un diwygiad 1859, yn yr hon y pregethodd Mr. Jones ar y "Maen osododd Duw yn Seion." A phan ofynwyd iddo pa fath Gymanfa gafodd, "Yr oedd yn Gymanfa ryfedd," meddai, "ond swn Jones, Blaenanerch, sydd yn fy nghlustiau i o hyd yn gwaeddi 'Sylfaen safadwy.'" Bu ar daith trwy Sir Fon ar ol y Gymanfa, a dywedir fod holl ynys yn debycach i gynwrf mawr cyfarfod arbenig i addoli na dim arall tra fu yno, oblegid ei boblogrwydd tra rhyfedd. Tra yr oeddym yn y sir flynyddoedd ar ol hyny, yr oedd y bobl yn tystio wrthym bod ugeiniau os aad canoedd wedi ymuno â'r eglwysi mewn canlyniad i'w bregeth fawr yn Sasiwn Bangor.