Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gedwid gan y ficer; ond wedi dechreu pregethu, aeth at Dr. Phillips i Neuaddlwyd, ac arhosodd yno am beth amser. Pan yn 28 oed, sef yn 1825, priododd â Miss Jenkins, Priory, Llanbedr, lle y bu ef yn byw am flynyddoedd, a'r lle hefyd y bu farw, Tachwedd 23, 1867, pan yn 70 oed. Yr oedd y Priory yn feddiant i deulu Mrs. Jones, ac y mae eto yn feddiant i'w theulu hithau. Yn y tŷ hwn y cynhelid yr achos Methodistaidd am oddeutu 35 mlynedd cyn codi y capel, yma y lletyai yr holl bregethwyr, ac yma y buont hefyd am flynyddoedd lawer gyda Mr. a Mrs. Jones.

Daeth allan yn bregethwr poblogaidd ar unwaith. Yr oedd y Parchn. Ebenezer Morris ac Ebenezer Richard, a golwg fawr arno fel pregethwr hynod o addawol. Ordeiniwyd ef yn Aberteifi, 1833, Bu ar deithiau yn fynych trwy Dde a Gogledd. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf dymunol gan yr eglwysi. Dacw ef yn y pulpud, dyn tal a chorfforol, gwallt melyngoch, gwyneb goleu a chrwn, ond yn myned yn feinach at yr ên. Mae ei lygaid yn sirioli fel y mae yn myned at ei bethau; ond nid yw yn edrych fawr o gwmpas, yn unig gwna droi ei lygaid weithiau fel pe byddai rhywbeth yn digwydd i dynu ei sylw, ond yn anymwybodol ac yn ei ffordd y mae yn gwneyd. Pan yn dweyd "Peth arall eto," cyfyd ei law chwith at ei dalcen, gan ymuniawnu a chymeryd anadl. Cyfyd ei lais cryf a nerthol bob yn radd, ac fel y mae yn codi, mae yn dyfod o hyd yn fwy soniarus. Pan yn dyfod at y casgliadau oddiwrth y bregeth, gwna wasgu y pethau yn ddwys at y gwrandawyr, fel y mae yr odfa yn terfynu mewu dwysder mawr, os nad mewn hwyl neillduol. Dywedir ei fod yn cael hwyliau mor aml a neb am lawer o'i flynyddoedd cyntaf; a phregethodd yn rymus ac adeiladol hyd ddiwedd ei oes.

Yr ydym yn ei gofio yn pregethu ar y geiriau, "Y tlawd hwn a a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu;" mewn modd goleu a nerthol. Yr oedd yn dechreu ei daith ar y pryd i Gymdeithasfa Caernarfon. Clywsom wedi hyny mai pregeth y Gymanfa ydoedd, a'i bod gystal a dim gafwyd yno. Dyma gynllun y bregeth, I. Y gwrthddrych sydd yma yn cael ei amlygu—"y tlawd hwn." 1. Mae dyn yn