Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dlawd yn ei dad—o'ch tad diafol yr ydych. Yr oedd o ddechreu da, ond yn terfynu mewn carchar a chadwynau. 2. O ran ei gymeriad" Mewn anwiredd y'm lluniwyd," "plant digofaint" (gwel Rauf. iii., 10—18). 3. Tlawd o wisg—"Bratiau budron." 4. Tlawd o ymborth—"yfed anwiredd fel dwfr," "Ymborthi ar ludw y maent." 5. Tlawd o wybodaeth. 6. Bydd yn dlawd byth os na chaiff gyfnewidiad. II. Natur y tlodi. 1. Mae yn dlodi hen iawn, yn wreiddiol yn mhawb. Yn Eden cofiaf hyny byth, bendithion gollais rif y gwlith." 2. Mae yn dlodi cyffredinol, "megis deilen y syrthiasom ni oll," "pawb a bechasant." 3. Tlodi a anghofir y rhan amlaf ydyw-" myfi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim,' yw iaith y dyn, fel dyn meddw yn ymffrostio yn ei gyfoeth, ac yntau heb ddim. 4. Tlodi a chanlyniadau pwysig iddo ydyw. III. Yr hyn mae y tlawd yn wneyd, "llefain." IV. Yr hyn a wnaeth yr Arglwydd iddo-" yr Arglwydd a'i clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau." 1. Aeth y tlawd hwn i'r iawn fan. 2. Clybu Duw ei angen yn ei lef. 3. Mae y gair "clybu" ya dangos i Dduw gyfarfod a'i holl angen. Nid yn fuan, nac fel y mae y tlawd yn meddwl yn fynych, y gwna Duw waredu o'i holl drallodau, ond gwna yn ddoeth, yn brydlon, ac o bob trallod wrth farw, a hyny am byth.

Pregeth arall ganddo ar Luc ix 43. Rhan gyntaf. I. Sylwn ar FAWREDD Duw. 1. Ei fawredd hanfodol a gwreiddiol. 2. Ei fawredd yn ei briodoliaethau. 3. Mawredd gwaith creu pob peth. 4. Mawredd meddiant a llywodraeth. 5. Mawr yn ei ddarpariadau ar gyfer y duwiol a'r annuwiol. II. YR AMLYGIAD O'I FAWREDD TRWY IESU GRIST. 1. Yn ei osodiad i fod yn Waredwr. Wrth ran o'i waith y mae yma, pan ryfeddodd y dynion, meddwl yr oeddynt fod yr Hollalluog fraich y tucefn iddo. 2. Yn cyfanogiad o holl allu a gras Duw. 3. Yn ei waith yn tynu pechaduriaid ato. Eisiau cael hyn eto sydd, er rhoddi iawu farn i ddynion am Dduw." Yr oedd yn effeithiol iawn pan yn cymell y bobl i waeddi gydag ef, "I'r golwg y delo!" "Pe byddai ef yn dyfod i'r golwg, aethai pawb o honom i'r llwch fel Job. Delai llawer