Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mawrth 30—Yr Iuddewon—Ansawdd eu cymdeithas deuluaidd, Rhan II.—Beirniadaeth y traethodau ar hanes, cymmeriad, ac addysg bywyd Joseph—Siarad rhydd—Dadl—A oes rhyw reswm i gredu fod Ioan Fedyddiwr yn gweinidogaethu dan yr Hen Oruchwyliaeth?

Mae y Traethodau at eu beirniadu i fod yn llaw y llywydd wythnos cyn y cyfarfod, yn yr hwn y byddant yn dyfod i sylw.

"Os bydd i un o'r aelodau ymwrthod â darllen papyr Saesneg, wedi addaw, bydd yn ofynol iddo roddi pythefnos o rybudd o hyny, fel y gellir darparu arall yn ei le."

Yr oedd y Dr yr un mor gyfundrefnol gyda y cymdeithasau ereill, ac yn llawn mor ofalus ar ol eu gweithrediadau. Teimlai ddyddordeb neillduol ynddynt, gan eu bod, mewn ystyr, yn blant ei feddwl ac yn gynnyrchion ei ddarfelydd ei hun, ac yn profi, fel y nodai, yn dra gwasanaethgar a buddiol i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Mae yn wir ei fod yn cael llawer iawn o gynnorthwy brodyr da a charedig gyda y gwaith mawr oedd yn cael ei gyflawnu gan y cymdeithasau hyn oeddynt yn gyssylltiedig â'r eglwys. Nid ydym yn gwybod am lawer, os am neb, wedi bod bob amser yn fwy ffodus yn ei ddiaconiaid nâ'r Dr., ac yr oeddynt hwy yn cymmeryd rhan dra blaenllaw gyda phob symmudiad o bwys yn holl gyssylltiadau yr eglwys. Hefyd, cododd yn yr eglwys nifer lluosog o ddynion ieuainc o dalent a chymmeriad, y rhai fuont ar eu heithaf yn cydlafurio yn heddychol â'r Dr. enwog, megys ei lysfab, Mr. Edward Gilbert Price; y Parch. James Jones, Abercwmboye, wedi hyny, Tonyrefail (yr oedd efe yn ddiau yn genius, a phe cawsai fyw, y mae yn ddyogel genym y buasai wedi rhoddi prawfion diamheuol o hyn); Gwerfyl James, a'i frawd James Spinther James, yr hwn erbyn heddyw sydd yn un o hynafieithwyr ac ysgrifenwyr goreu Cymru, yn llenor o nod ac enw, ac wedi graddio yn Athraw Celfyddydol; David Griffith, yn awr o Aberafon; a'r diweddar Barch. George Thomas, Porth. Yr oedd y rhai hyn ac ereill yn cael gwneyd eu rhan gan y Dr. yn nygiad yn mlaen waith amrywiol yr eglwys, yn neillduol yn y Dosparth Llenyddol a'r Ysgol Sul. Etto, enaid y gwaith—yr yspryd mawr symmudol yn yr holl weithrediadau—oedd y Dr. ei hun. Efe oedd yr ager yn y peiriant—yr haul yn y cyfundrefnau. Cawsai gan ei fedr i lywodraethu ac i arwain bob olwyn yn y peiriant i droi yn naturiol a thra ystwyth. Taflai oleuni ar holl gyssylltiadau y cyfundrefnau y perthynai