Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddynt, a thynai allan fywyd ac egnion pawb oedd yn perthyn iddynt. Trwy hyn, galluogwyd ef i wneyd toraeth o waith yn ei eglwys yn Aberdar a'r cylchoedd fydd yn glod i'w enw ac yn anrhydedd i'w ben a'i galon am oesau lawer i ddod.

Yr oedd Price hefyd yn neillduol weithgar a ffyddlawn gyda'r Ysgol Sabbothol. Mynychai hi yn y boreu hyd y blynyddau olaf o'i fywyd, ac yr oedd yn dra chysson yn mhrydnawn y Sul pan fyddai gartref. Bu dosparth dan ei ofal drwy y blynyddau yn rheolaidd yn yr Ysgol bob prydnawn y Sabboth. Yr oedd hefyd yn gweithredu fel athraw yn Ysgol y boreu, er fod gofal y dosparth yn cael ei gymmeryd gan un neu ddau o'r diaconiaid. Yr oedd ganddo amryw o frodyr galluog yn ei ddosparth, a theimlent ddyddordeb mawr yn yr Ysgol ar gyfrif y wybodaeth gyffredinol a dderbynient gan yr enwog Ddr. Defnyddiai yn gyffredin ddarlunlen (map) at wasanaeth ei ddosparth, a byddai bob amser yn awdurdod ar bwyntiau o ddaearyddiaeth, hanesiaeth, ac amseryddiaeth Feiblaidd. Yn fynych, clywid rhai yn yr Ysgol yn dweyd, "Onid yw y Dr. yn ddoniol? Y mae efe fel encyclopædia yn mhob pwnc." Yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn ddiarebol, a'i arabedd pan yn esponio yn ei ddosparth mal rhaiadr yn disgyn ar glustiau y dysgyblion. Yr oedd yn nodedig am ei ofal am y plant a'r bobl ieuainc yn ei Ysgol a'i eglwys. Torai bob amser ddigon o waith allan iddynt, ac ymhyfrydai siarad â'r plant a'u cefnogi yn mhob modd. Nid oedd y lleiaf a'r dystadlaf o honynt islaw ei sylw. Byddai bob amser yn siriol-ar ei wên yn myned oddiamgylch y dosparthiadau ychydig amser cyn eu diweddu, ac yr oedd yn dra charedig a moesgar i bawb. Yr oedd y plant yn hoff iawn o hono; gwaeddent allan pan welent ef yn dod, "Mr. Price,” "Price Penpound." Yr oedd hyn yn ei foddhau yn fawr, ac yr oedd gydag ef air caredig i'w ddweyd wrth bob un o honynt. Cyfrifai hyn o bossibl i raddau helaeth am ei lwyddiant gyda'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd yr Ysgol Sul yn llewyrchus yn Mhenypound er yn foreu, a llwyddodd Price i gadw bywyd ynddi drwy y blynyddau, ac nid yn unig hyn, ond i greu a throsglwyddo yspryd y fam-eglwys yn y cangenau.

Gosodai y Dr., er mwyn cadw y dyddordeb i fyny, wahanol bynciau Ysgrythyrol i'w myfyrio gan yr Ysgol, a newidiai y cynlluniau yn fynych, rhag y byddai gormod o