unffurfiaeth mewn dull ac unrhywiaeth mewn gwaith a llafur yn eu lladd, fel y goddefir yn fynych yn ein Hysgolion Sabbothol. Holai yr ysgol yn fynych ei hun, a gosodai ereill i wneyd brydiau ereill. Yr oedd yn hynod eiddigeddus gyda golwg ar iachusrwydd yr athrawiaethau. Yr oedd bod yn orthodox yn beth mawr yn ei olwg ef. Pan welai rai yn tueddu myned ar gyfeiliorn, arweiniai hwynt yn ol yn ofalus, fel bugail tyner yn dychwel ei wyn crwydredig; ac os buasent yn ben-galed a chyndyn i gymmeryd eu harwain, rhoddai ergydion trymion iddynt nes y teimlent mai gwell oedd peidio ymgyndynu ag ef. Rhoddwn yn unig yma un enghraifft o hyn, yr hon, gan ei bod yn lled nodweddiadol o hono, a ystyriwn yn ddigon i'n gwasanaethu yn y mater dan sylw. Yr oedd yn perthyn i'r Ysgol Sul un adeg hen frawd da o Sir Benfro, o'r enw Shem Davies. Yr oedd Shem yn Uchel-Galfinwr. Arferid yr adeg a nodwn i'r dosparthiadau roddi adnodau dyrus y naill i'r llall i'w hesponio a'u hegluro. Yr oedd Shem a'i ddosparth wedi cael, yn ei dro, adnod i'w hesponio, yna yr oedd ganddo hawl i roddi adnod yn ol a chael esponiad arni. Rhoddwyd esponiad cyflawn ac eglur, fel y tybid, i Shem a'i ddosparth. Yna cododd y Dr., a gofynodd, Ydych chwi wedi cael eich boddloni, Shem, ar yr esponiad hwna?" Gyda golwg anfoddog, cododd Shem, a dywedodd "fod rhywbeth yn nglyn ag etholedigaeth ddiammodol a pharhad mewn gras yn peru iddo edrych ar yr adnod mewn goleuni hollol wahanol." Ond cyn agor y ddadl ar y mater, oblegyd i hyn yr oedd pethau yn arwain, cododd y Dr., a dywedodd yn hyf, fel yr arferai mewn amgylchiadau o'r fath, “Er mwyn Duw, Shem, eisteddwch i lawr, a thewch a son, y mae eich pen chwi wedi ei lanw â chymmaint o hooks a bachau crochan hen Galfiniaeth, nes y mae y tipyn synwyr a gawsoch wedi ei golli yn llwyr." Eisteddodd Shem i lawr yn eithaf tawel, a therfynwyd yr ysgol. Ymadawodd pawb wedi eu lloneiddio ychydig gan atebiad doniol y Dr. Byddai efe yn gyffredin yn gwybod, nid yn unig yn pa le i daro, ond hefyd yr adeg briodol i wneyd hyny; a phan yn ergydio gwnelai hyny, fel y dywedir, i dref. Yna cymmerai pobpeth ei gwrs yn llyfndeg am amser maith. Dyoddefai y bobl ganddo i ddweyd weithiau yn llym a chaled wrthynt, oblegyd gwelent bob amser ynddo ddyn gonest a gwynebagored, a theimlent fod ganddo galon ac yspryd rhagorol; felly nis gallai hyd y
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/109
Gwedd