Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nod y rhai a fuasent yn awr ac eilwaith yn cael teimlo pwysau ei ordd lai na'i garu a'i barchu, wedi'r cwbl. Nid yn unig yr oedd y Dr. yn fynychydd cysson o'r Ysgol Sabbothol, ond yr oedd hefyd yn teimlo dyddordeb neillduol yn yr ysgol ganu, ac yn talu sylw neillduol i'r ddau gôr, sef y cor mawr a'r côr bach oedd yn ei eglwys. Gwelwn oddiwrth ddyddiaduron y Dr., ac y mae tystiolaethau aelodau y corau yn profi yr un peth, ei fod i'w weled yn aml yn yr ysgol gân. Yr oedd, ac y mae, bob amser, ddau gôr yn Nghalfaria-y côr mawr a'r côr bach, fel eu gelwir, ac y mae y ddau gor wedi gwneyd gwaith rhagorol yn yr eglwys hon erioed. Cofnoda y Dr. ei ymweliadau i'r ysgol gân mor ofalus ag y gwna groniclo ei fynychiadau yn y cwrdd gweddi neu'r gyfeillach. Ystyriai y corau yn deilwng o bob cefnogaeth, a chanu y cyssegr mor bwysig ag unrhyw ran o'r gwasanaeth Dwyfol. Cadwodd ei bresenoldeb yn yr ysgol ganu, yn ddiau, "gythraul y canu" oddiwrth y cor lawer gwaith, oblegyd byddai yn arw iawn rhwng Price a'r cantorion pan ddeuai Mr. Pwd i fewn i'r cor. Dywedai ei feddwl wrthynt yn weddol lym weithiau, ac wrth wneyd hyn byddai yn debyg o ddweyd rai pethau lled ddoniol. Yr oedd aelod o'r cor unwaith, o'r enw Evan Jones, wedi tramgwyddo, ac yn y gyfeillach un tro pallai Evan wneyd yr hyn a geisiai y diaconiaid ganddo, a bu ychydig ddiflasdod yno o'r herwydd. Cododd y Dr. ar ei draed, a gofynodd, "Paham na wnewch fel y ceisia y diaconiaid, Evan? Wel, wn I ddim, yn enw Duw, beth sydd y mater ar y bachgen, y mae fel pe yn gwisgo spectols gleision bob amser, ac yn byw ar wynt a chrafion erfin y cythraul trwy y flwyddyn." Chwerthinodd pawb, a darfu y cwbl yn y man.

Dro arall yr oedd Evan wedi pwdu, ac wedi gadael y cor a'r capel am ychydig. Yn y cyfamser cyrchai i'r Gadlys, a phan yno ymunai â'r cor. Yr oedd y Dr. yn pregethu un Sabboth yn y Gadlys, ac yn meddwl ei fod yn gweled Evan ar front y gallery, cododd ei spectol i fyny, ac edrychodd yn graff ar y cantorion, a dywedodd, "Evan, ti sydd yna? Os oes gormod o'r diawl ynot ti i ganu gyda'r cor yn Nghalfaria, nid wyt i ganu yma heddyw. Symmud i'r ochr, wnei di." Gwnaeth Evan ei gais yn uniongyrchol, a bu hyn, mae yn debyg, yn foddion nid i yru Evan yn mhellach, ond i'w wella i raddau o'r yspryd pwdu. Triniai Price y bechgyn a'r merched yr un fath fel hyn weithiau.