Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywedai y drefn wrthynt yn ddidderbyn-wyneb, ac yn aml yn arw iawn; ac etto, yr oedd yn garedig iddynt ac yn hoff iawn o honynt, a hwythau, er pob croesdynu, yn ei garu ef yn fawr. Dywedai un o aelodau hynaf a mwyaf sefydlog y cor, yr hwn sydd hefyd yn ddiacon parchus yn yr eglwys, sef Mr. Walter Leyston, fod y Dr. yn un neillduol dda yn yr ysgol ganu, ac yn hynod garedig iddynt fel cantorion. Credai fod y Dr. wedi rhoddi gwerth ugeiniau o bunnoedd o lyfrau i'r corau o'i logell ei hun. Pan oddicartref prynai bob llyfr a welai o werth i'r corau, a mynai iddynt gael y llyfrau goreu at eu gwasanaeth. Calonogai hyn y cantorion yn fawr, felly ymegnient i gael canu da bob amser. Cynnorthwyai hyny y weinidogaeth i ennill a chadw cynnulleidfa dda. Cafodd Calfaria ei bendithio nid yn unig â gweinidog da yn y pwlpud, ond hefyd, yn gyffredin, ag arweinwyr da o flaen y corau. Bechgyn da oedd John a Shem, dilladyddion fuont yn arwain yn yr hen Benypound, bron yr adeg gyntaf y daeth Price yno. Wedi hyny cafwyd gwasanaeth John, mab Henry Moore; Thomas, neu, fel eu gelwid ef yn gyffredin, Twmi Parry; Bili Shon Morgan, o Rymney gynt; John Roberts, awdwr y dôn, "Alexander;" Jenkin Howell, ac yn ei ganlyn y ddau frawd o ardaloedd y Groesgoch a'r Mathry, ger Llangloffan, Swydd Benfro, George a William Griffiths. Yna dychwelodd y cor eilwaith i ofal Jenkin Howell. Dilynwyd ef drachefn gan y brawd talentog Evan Leyshon, yn awr argraffydd, Porth; y medrus Theophilus Jenkins, ysgolfeistr Abernant; ac wedi hyny gan yr arweinydd presenol, Daniel Griffiths. Mae corau Calfaria, am dymhor maith, wedi bod yn cynnal budd-gyngherddau blynyddol i glirio dyledion yr eglwys yn y lle, ac y maent wedi sylweddoli symiau mawrion o arian bob tro, yn neillduol gan eu bod yn gweithio'r cyngherddau i fyny ar ychydig draul. Nid oedd un aelod o'r cor yn gweithio yn fwy egniol a ffyddlawn i gael y cyngherddau hyn i fyny na'r Dr. Yr oedd yn sicrhau nawdd- ogaeth prif deuluoedd y dref a'r gymmydogaeth. Nid yn unig sicrheid cynnalleidfa a orlenwai y capel ar noson y gyngherdd; eithr byddai yn un dra pharchus ac anrhydeddus. Byddai y Dr. gyda'r cantorion fel un o honynt, a gofalai am danynt fel tad tyner a gofalus. Wrth ddiolch ar ddiwedd y cyngherddau am y gefnogaeth oeddynt wedi ei gael, dywedai eiriau caredig am y cor a'i weithgarwch. Ymffrostiai ynddynt fel ei blant ei hun. Dywedai mor