ddoniol, fel y taflai braidd ddigon o yspryd ynddynt i fyned yn mlaen gyda'u gwaith am flwyddyn gyfan. Yr oedd yn hynod fforddus yn hyn. Llwyddai i gadw y corau yn dda dan law, a phob amser mewn hwyl ac yspryd gweithio.
Yr oedd y Dr. yn enwog am ei ofal o lechres aelodiaeth yr eglwys. Rhoddai gerdynau aelodiaeth, yn cynnwys dyddiad eu derbyniad i'r eglwys, wedi eu llawnodi ganddo ef ei hun, y rhai yn gyffredin a gedwid yn barchus a gofalus gan y cyfryw aelodau drwy y blynyddau. Coflyfrai y manylion am danynt, megys lle a dyddiad eu genedigaeth, dyddiad eu bedyddiad a'u derbyniad i'r eglwys. Gwnai hyn hefyd â'r rhai a dderbynid i'w eglwys drwy lythyrau. Ni welsom neb erioed yn fwy cyfundrefnol gyda hyn nag ef. Yr oedd yn gredwr mawr yn yr adnod bwysig hono o eiddo yr apostol, "Gwneler pob peth yn weddus ac mewn trefn." Perai syndod edmygol i lawer i edrych ar y modd y mae efe wedi cadw llechres-lyfr yr eglwys trwy y blynyddau meithion y bu yn weinidog arni.
Arferai hefyd y gofal a'r manylwch mwyaf gyda chyfrif- on amrywiol a gwahanol yr eglwys. Er fod gydag ef bob amser ysgrifenydd manwl a llu o ddiaconiaid gofalus, a thrysorydd galluog a ffyddlon, etto mynai ef weled fod y gwaith yn cael ei wneyd gyda'r llwyredd mwyaf. Cyhoeddai fantol-len a chyfrifon arianol yr eglwys bob blwyddyn, ac yr oedd hyn yn gynnorthwyol i gadw tangnefedd yn yr eglwys, ac i'w symbylu i fwy o gydweithred- iad, gweithgarwch, ac ymddiriedaeth. Pan gyflwynai y swyddogion eu mynegiadau o weithrediadau yr eglwys am y flwyddyn, yn nghyd â chyfrifon arianol pob trysorfa, rhoddai yntau ei anerchiad iddynt. Cawn amryw o'i anerchiadau i'r eglwys, a'r cyfrifon arianol wedi eu hargraffu yn fân bamphledau, ac ereill wedi eu cyhoeddi yn Seren Cymru. Fel hyn, gwelwn fod y manylwch a'r llwyrder mwyaf yn cael eu harfer ganddo i weled nad ydoedd un adran o'r fyddin ysprydol oedd wedi ei hymddiried i'w ofal yn esgeuluso ei gwaith. Nid oedd yn caniatau gwywder yn un rhan o'r cyfansoddiad. Yr oedd "cyfander a llwyredd ' gwaith yn bwysig yn ei olwg ef, ac y mae hyn i raddau helaeth, yn ddiddadl, yn cyfrif am gyflwr iachus a dymunol, yn o gystal ag am sefyllfa ragorol yr eglwys yn Nghalfaria yn mhen deunaw mlynedd o'i weinidogaeth, sef yr adeg y cyhoeddodd ei Jubili i'r eglwys. Yno dengys sefyllfa yr eglwys fel y canlyn:—