Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

SEFYLLFA BRESENOL EGLWYS CALFARIA.

Mae yr eglwys hon wedi cael y fraint o fod yn llawen fam plant. Y mae wedi gwneyd ei rhan i fagu a meithrin ei merched, ond mae hi fel eglwys yn para yn gryf a nerthol; mae yn lluosog a gweithgar. Y mae yn awr mewn cyflwr i wneyd cymmaint o ddaioni ag y bu ar unrhyw adeg flaenorol. Nid yw ei phlant wedi difa eu nerth, ac nid yw hithau wedi myned yn hen yn ngwasanaeth ei Harglwydd. Y mae yr eglwys hon o'r flwyddyn 1845 wedi gollwng aelodau er ffurfio y gwahanol gangenau, y nifer o 484; er hyn oll, mae ei rhif hi yn para yn fawr, a'i nerth heb wanhau, gan na fu yr eglwys erioed mewn cystal cyflwr ag y mae yn awr.

Ni a roddwn yma enwau swyddogion yr eglwys, rhif ei haelodau, cyflwr ei hysgolion, ei gwerth meddiannol, gyda y ddyled arosol ar feddiant yr eglwys.

Gweinidog—Y Parch. Thomas Price. Gweinidogion Cynnorthwyol —Y Parchn. David Hopkins, David Adams, Ebenezer Morgans[1] Pregethwyr Cynnorthwyol—Y brodyr James Jones, Humphrey James, David Jones, Jeremiah James, David Williams, George Thomas. David Morgan. Diaconiaid—Benjamin Lewis, Philip John, David Hughes, John Thomas, 1af, William Davies, 1af, Henry Davies, John Roberts, William Richards, Moses Saunders, Stephen Phillips, Benjamin Wheeler, William Davies, 2il, Bethuel Williams, William Miles, William Davies, 3ydd, William Jones, 1af, David Davies, Benjamin Phillips, William Evans, Edw Gilbert Price, Dan James, John Moore, Abraham Davies, William Jones, 2il, John Francis, Richard Dowton. John Thomas, 2il, Rees Rees, Thomas Roberts. Trysorydd—Philip John. Ysgrifenydd—William Davies.

Rhif yr aelodau mewn cyflawn gymundeb ar Awst 3, 1863, oedd 1031

Rhif yr ysgolion Sabbothol perthynol i'r eglwys. 4

Rhif yr athrawon yn yr ysgolion 131

Rhif yr ysgolheigion yn y pedair ysgol 1214

  1. Er ein Jubili mae y brawd Dd. Hopkins wedi sefydlu yn America; y brawd David Adams wedi sefydlu yn weinidog ar eglwys y Brithdir; y brawd Ebenezer Morgans wedi cymmeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys yn y Twyngwyn; y brawd James Jones wedi ei ordeinio yn fugail ar yr eglwys yn Abercwmboye; y brawd David Lewis wedi sefydlu yn weinidog ar yr eglwys Gymraeg yn Witton Park, swydd Durham; a'r brawd David Griffith wedi cymmeryd gofal eglwys Ebenezer, Dyfed.