fodol. O'r Arglwydd y mae hyn oll, ac iddo ef yn Dad, Mab, ac Ys- pryd Glán, y byddo yr holl ogoniant yn awr ac yn oes oesoedd. Amen.
"ATTODIAD. JUBILI EGLWYS CALFARIA, ABERDAR.[1]
"Hanner can mlynedd i'r haf hwn, agorwyd y capel cyntaf gan y Bedyddwyr yn mhlwyf Aberdar. Adgofiwyd am y tro trwy i eglwys Calfaria gynnal Jubili ar y Sul a'r Llun, Awst 3ydd a'r 4ydd. Cawsom yno tu hwnt i bob dadl res o'r cyfarfodydd mwyaf dymunol a gwlithog a dreuliwyd gan yr eglwys yn ystod yr hanner canrif diweddaf. Dechreuwyd trwy gynnal cwrdd gweddi am 9 boreu dydd Sul. Yna, am ddeg, pregethodd y brodyr Williams, Hengoed, a Morgan, Llanelli, gyda dylanwad anarferol. Am 12 o'r gloch, gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Yr oedd yr olygfa a gafwyd, a'r teimlad a brofwyd yn fath nas annghofir byth. Yr oedd y capel ëang i lawr ac i fyny, gyda y vestry, yn llawn o blant Duw, yn cofio am gariad Iesu. Gweinyddwyd yr ordinhad gan y brawd Price, y gweinidog, yn cael ei gynnorthwyo gan y brodyr Roberts, Trosnant; Morgan, Llanelli; Williams, Hengoed; ac Adams a Hopkins, Aberdar. Ni chafwyd yn ol pob tebygolrwydd, y fath olygfa yn Nghymmru erioed. Yr oedd eglwys Calfaria ei hun yn rhifo y boreu hwnw 1031 o aelodau, heblaw ugeiniau o'i phlant ag oeddynt wedi dyfod o bellder ffordd i ymweled â hi ar ddydd ei Jubili. Yn y prydnawn, gorfuwyd ni i fyned allan i'r awyr agored, gan faint y dyrfa. Yn ffodus iawn, cawsom dŷ ein hanwyl frawd Evans, Draper, yn agored i ni, a'r balcawd o'i flaen yn lle hollol gyfleus i'r gweinidogion, a digon o le i'r miloedd i wrandaw yn gysurus. Yn y nos, rhanwyd y gynnulleidfa yn dair, a chafwyd cyfarfodydd a'u llon'd o Dduw.
"Dydd Llun, dechreuwyd mewn cwrdd gweddi am 9 o'r gloch; a dyma y cwrdd gweddi rhyfeddaf y buom ynddo yn ein bywyd. Y fath weddio, y fath wrando, a'r fath fendithio. Am 10, darllenwyd Hanes yr Eglwys gan Mr Price, a phregethodd Mr. Evans, Castellnedd, bregeth y Jubili. Yr oedd hon yn bregeth o'r radd flaenaf, yn cael ei thraddodi mewn nerth mawr. Mae yr hen bobl dda yn dweyd nad annghofiant byth mo honi. Am ddau, pregethwyd gan y brodyr Lloyd
a Roberts, Merthyr. Yn yr hwyr, anerchiadau byrion, bywiog, nefolaidd, yn gymmysgedig â chanu a gweddio, gan y Parchn. James. Llanfairtalhaiarn; Phillips, Trefforest; Nicholas, Aberaman; Williams,
- ↑ Cymmerwyd yr hanes canlynol allan o "Seren Cymru," am Awst 15fed, 1862.