Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mountain Ash; Lloyd, Ebenezer; Roberts, Tabernacl; Llewellyn Jenkins, Ysw., Hengoed; Evans, Castellnedd; Roberts, Trosnant; a'r gweinidog. Cymmerwyd rhan hefyd yn y cyfarfodydd gan Adams, Aberdar; Harris, Heolyfelin; Griffiths a Thomas, Athrofa Pontypwl. Gyda y gweddio taer, y pregethau dylanwadol, a'r annerchiadau cynnes, cawsom y canu cynnulleidfaol mwyaf nerthol a nefolaidd.

"Mae eglwys Calfaria, yn ystod y tymhor byr o hanner can mlynedd, wedi cael y fraint fawr o fod yn FAM i dyrfa fawr o blant. Er gweled hyn, digon yw nodi bod eglwys Calfaria, gyda'r eglwysi a'r cangenau sydd wedi hanu o honi, yn 17, yn cynnwys yn awr 3,096 o aelodau; 25 o weinidogion a phregethwyr cynnorthwyol; a 17 o ysgol. ion Sabbothol yn cynnwys 3,691 o ddeiliaid. Mae yr eglwysi hyn yn meddu eiddo gwerth £16,850 15s. 11c., ond bod eu dyled yn £7.362 11s. 4c. Ond er magu y fath nifer o blant, a gollwng y fath nifer i ffurfio eglwysi newyddion, mae y fam yn para yn gryf, ac yn awr mor iach ag erioed. Mae ei haelodau yn rhifo 1031, a deiliaid yr Ysgol Sul yn rhifo 1345. Diolch i Dduw am yr hanner can mlynedd a aethant heibio; a'i wenau fyddo ar eglwysi Aberdar am yr hanner cant nesaf.

Gwelir yn eglur, oddiwrth y ffeithiau blaenorol, fod gweithio egniol a chysson wedi bod gan Fedyddwyr y dyffryn, ac yn neillduol gan y fam-eglwys yn Nghalfaria a'i gweinidog, cyn y buasai yr eglwys yn gallu cyrhaedd y fath allu nerthol, a dyfod i'r fath gyflwr cysurus mewn amser mor fyr. Gwelsom y gweinidog ieuanc yn dechreu ar ei weinidogaeth yn nghanol yr anfanteision mwyaf, ond y mae anfanteision yn rhoddi cyfleusdra i ragoriaethau ddyfod i'r golwg. Felly y bu yn yr amgylchiad hwn. Cyflawnai Price ei waith yn onest a phenderfynol, gan adael y canlyniadau i Dduw. Chwarddai, mewn ystyr, yn ddiystyrllyd ar anhawsderau. Dywedai am y rhwystrau godent ar ei ffordd bob cam o'r daith, "Y mynydd mawr, pwy wyt ti, gerbron gwaredydd Israel y byddi yn wastad. Ac felly y bu yn ei holl hanes. Gosodwyd meini lawer gan elynion iddo ar ddrws llwyddiant yr achos yn ei eglwys a'r dyffryn, ac wrth edrych yn mlaen arnynt yn ymddangos yn y pellder, gofynai Price, "Pwy a dreigla i mi y maen?" Ond yn ngrym penderfyniad a ffydd yn ei Waredwr, aeth yn mlaen, a chafodd y maen yn gyffredin wedi ei dreiglo, ac achos mawr y Bedyddwyr yn Nghalfaria ac yn y dyffryn yn gyffredinol yn codi ei ben, ac yn dyfod yn fwy rhydd yn barhaus.