Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IX.

CALFARIA O 1866 HYD 1888.

Cyfnod olaf hanes gweinidogaethol Dr. Price-Adolygu y gorphenol yn ddymunol-Y Trem am waith yr eglwys—Adnewyddu y capel ac adeiladu yr Hall-Ystafelloedd y diaconiaid-Y menywod-Y gweinidog-Calfaria Hall -Cyfarfodydd Agoriadol yr Hall.

WELE ni bellach a'n golwg ar y cyfnod olaf yn hanes gweinidogaethol Dr. Price. O ran hydred, y mae ychydig yn fwy nâ'r cyfnod maith, toreithiog o ffrwythau a gweithredoedd da yr ydym eisoes wedi sylwi yn frysiog arno; ond er ei fod yn faithach o ryw gymmaint, etto nid yw mor gynnyrchiol o ddaioni, ac mor llewyrchus gan lwyddiant a'r tymhor cyntaf. Ond y mae y gwahaniaeth dirfawr oedd rhwng amgylchiadau y ddau gyfnod yn cyfrif i raddau pell iawn am hyn. Cyfnod braenaru, trin y tir, a hau, yn fwyaf neillduol, oedd y cyntaf; ond tymhor medi a mwynhau ffrwyth y llafur, mewn ystyr, oedd yr olaf. Tori y tir, gosod sylfeini, ac adeiladu oedd y cyntaf; ond edrych yn edmygol ar y deml mewn cyflwr gorphenedig, ac ymlonyddu i gyflwyno ar allor Ior aberthau mwy byw, sancteiddiach, a mwy cymmeradwy, ac i fwynhau yn helaethach a mwy sylweddol bresenoldeb Duw a'i fendithion cyfoethog o ras a daioni ysprydol, oedd y cyfnod olaf, er fod gwaith gofalu am amgylchiadau allanol a mewnol yr achos yn ofynol o hyd. Cyflawnwyd llawer o waith garw, megys codi ysgoldai ac adeiladu capeli, yn y cyfnod cyntaf, ac yr oedd toraeth y gwaith amgylchiadol allanol yn yr ystyr hwnw erbyn hyn ar ben; etto, yr oedd y gwaith mawr o adeiladu yr eglwys a'r achos yn y lle yn y yn y "sancteiddiaf ffydd" i'w ddwyn yn mlaen yn egniol fel cynt, a chafodd ei wneyd yn ffyddlawn a diflino dan arolygiaeth fanylgraff y Dr. parchus hyd ei fedd. Cafodd efe weled yr eglwys yn "gwreiddio mewn cariad," yn lledu ei gwraidd fel Libanus, ei cheinciau yn cerdded, yn addfedu ei ffrwythau, ac yn ymddangos yn deg fel yr olewydden, a'i harogl yn ber fel Libanus; ac yr oedd hyn yn hyfrydwch i'w enaid,