Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn daliad iddo am ei lafur dihafal gyda phob adran o'r gwaith da.

Yn y Trem ar weithrediadau eglwys Calfaria, a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1885, dywed y Dr. fel y canlyn:

"Nid ydym yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf yn gallu son am dori tir newydd er helaethu teyrnas y Brenin Mawr, am fod hyny wedi ei wneyd gan eglwys Calfaria a'i gweinidog yn ystod y cyfnod or flwyddyn 1845 hyd ddydd cyntaf y flwyddyn 1866. Ac ar ddechreu cyfnod hwn yr oedd dyffryn Aberdar yn llawn o eglwysi, neu gangenau eglwysi, fel nad oedd galw am ragor. Ac er nad ydym yn cyfrif ein bedyddedigion mor lluosog ag yn y blynyddau gynt. etto y mae genym achos mawr i fod yn ddiolchgar iawn i Dduw, a chymeryd cysur. "Yn ystod yr ugain mlynedd cyntaf dan sylw, cafodd yr eglwys yn Nghalfaria y fraint o dderbyn y nifer mawr o 1.090 trwy fedydd; ac yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, sef o'r flwyddyn 1866 hyd 1885, y mae wedi derbyn 504 o aelodau trwy fedydd y crediniol. Yna os gosodwn y ddau gyfrifiad at eu gilydd, ni a gawn fod wedi eu bedyddio yn yr eglwys y nifer o 1,594.

"Mae yn deilwng o sylw mai dyma yr oll a dderbyniwyd gan eglwys Calfaria yn y tymhor o o ddeugain mlynedd, yn ol llyfr yr eglwys. yr hwn sydd wedi ei gadw yn ofalus, gyda manylwch teilwng o efelychiad.

"Yn ol yr hyn a welir ar lyfr yr eglwys, y mae Calfaria wedi derbyn trwy fedydd, adferiad, a llythyron o eglwysi ereill, o Nadolig 1845 hyd Nadolig 1885, y nifer o 3,847, tra yn ystod yr un tymhor, y mae, er y flwyddyn 1846, wedi gollwng amryw gannoedd er ffurfio eglwysi yn Aberman, Cap Coch, Carmel, Bethel, Ynyslwyd a'r Gadlys.

"Mae yn dda genym fod y fam eglwys yn dal ei thir o dan fendith Duw ac arweiniaid yr Yspryd Sanctaidd "

Yn y flwyddyn 1869, rhoddodd yr eglwys ganiatad i'r Dr. fyned am dro i'r America, fel y cawn sylwi etto yn mhellach yn mlaen, ac nid hir wedi ei ddychweliad y bu cyn cyffroi meddwl a theimlad ei eglwys a'i gynnulleidfa yn Nghalfaria at y priodoldeb o adnewyddu y capel, adeiladu neuadd eang a chyfleus, yr hon a elwir yn awr Calfaria Hall, yn nghyd â threfnu a dyogelu y fynwent oedd yn perthyn i'r capel. Yr oedd y Dr. wedi dychwelyd â llawer o gynlluniau a diwygiadau America ganddo, ac os oedd modd, yr oedd wedi ei lanw yn fwy o yspryd yr Ianci, a elwir y “go” arno, nag o'r blaen. Gan fod ei ben a'i galon yn llawn o'r Yankee improvements, yr oedd yn awyddus