Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oddiwrth y Jubili gwelwn fod yr eglwysi ar Hirwaun ac yn y Tabernacl, Merthyr, wedi hanu allan o hen Eglwys Penypound, Aberdar. Cwmbach wedi hyny a gychwynwyd yn foreu, a chorffolwyd a derbyniwyd hi i'r gymmanfa yn y flwyddyn 1845, sef y flwyddyn y cafodd y Dr. alwad i ddyfod i Aberdar. Pregethodd Price lawer yma, a bu yn ofalus am dani pan dan ei weinidogaeth. Fel hyn y dywed am dani yn y Jubili:—"Bu yr eglwys yn y Cwmbach ar y dechreu yn un o'r eglwysi mwyaf addawol yn y sir. Yr oedd wedi cael y blaen ar bob cynnulleidfa arall yn y gymmydogaeth; perthynai iddi amryw o'r teuluoedd mwyaf cyfoethog a dylanwadol yn yr ardal; ond yn ol ein barn ni, hi a ymadawodd â'i mam-eglwys yn rhy gynnar."

Nid oedd Price yn anfoddlon i'r merched ymadael â'u mam, ac nid oedd ychwaith yn anfoddlon i'r merched briodi; ond yr oedd yn fawr am i'r cangenau aros yn ddigon hir dan nawdd y fam-eglwys hyd y gallent weled y ffordd yn glir i allu byw arnynt eu hunain yn weddol gysurus. Gwelwyd llawer pâr ieuanc yn tori i fyny, wedi methu byw yn ddedwydd ar ol priodi, ac yn gyffredin dychwelai y ferch adref at ei mam am dymhor, a dyna ddywedid yn aml am dani yn yr amgylchiad, "Buasai yn well ei bod wedi aros gartref gyda'i mam am ychydig flynyddau yn hwy." Bu rhywbeth tebyg feddyliwn yn hanes dechreuol yr eglwys yn y Cwmbach. Yn ei anerchiad ar ddydd ordeiniad y gweinidog presenol (y Parch. D. Thomas) yn Methania, Cwmbach, olreiniodd y Dr. ychydig ar hanes yr eglwys, yn nghyd â'r gweinidogion fuont yn gweinidogaethu yno o bryd i'w gilydd, ac wedi gwneyd hyny yn ofalus, fel yr arferai efe gyda materion o'r fath, dywedodd, "Yn awr, chwi a welwch fy mod I wedi cael y fraint a'r anrhydedd o fod yn weinidog ar ac i'r eglwys yn Methania dair gwaith, oblegyd bu yn ol dan aden ei mam yn Nghalfaria gynnifer â hyny o weithiau oddiar ei chorffoliad yn y flwyddyn 1845. Tebyg mai dyma'r tro olaf i'r Dr. fod mewn cyfarfod yn y Cwmbach, oblegyd nid hir y bu cyn cael ei analluogi gan wendid a chystudd i fyned yn mhell o'r ty. Yr oedd yn wanaidd yr adeg hono, a phawb braidd yn sylwi ei fod yn tori i fyny yn gyflym. Edrydd y Dr. fel y canlyn yn ei Jubili (1862) am Bethania, Cwmbach:— "Mae yn awr etto am dymhor o dan nawdd ei mam-eglwys, yr hon sydd wedi addaw ei chynnorthwyo am flwyddyn.' Eglwys dda oedd ac ydyw Bethania, Cwmbach, wedi y