Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwbl, a llafuriodd Price yn galed gyda hi o bryd i bryd. Teimlai ddyddordeb neillduol ynddi, oblegyd yn un peth, mai un oddiyno oedd ei anwyl briod, Mrs. Price, ac y mae ei theulu yn aros yno hyd heddyw. Gellir dweyd fod Bethania erbyn heddyw yn un o'r eglwysi goreu yn y cwm.

Cangen arall o Galfaria ag y teimlai y Dr. ddyddordeb neillduol ynddi oedd Mountain Ash. Y mae i'r eglwys hon hanes hynafol ac o ddyddordeb mawr; a chan fod Price, fel y dywedai ei hun yn y Jubili, "yn edrych arni gyda y teimladau mwyaf cysurus," dichon y maddeuir i ni am roddi ychydig o'i hanes wrth fyned yn mlaen. Yn ol erthygl alluog y diweddar anwyl frawd a'r diacon ffyddlon, Mr. Thomas Richard (Gwyno), Glyngwyn, tad y Parch. Richard Richard, gynt Pembroke Chapel, L'erpwl, yn awr Cotham, Bryste, yn Seven Gomer am Hydref, 1883, cawn fod Bedyddwyr yn byw yn Mountain Ash mor bell yn ol â'r flwyddyn 1786, ond ni fuont amgen i Nicodemus a Joseph o Arimathea, i raddau yn guddiedig oeddynt hyd y flwyddyn 1809, pryd y symmudodd gwr a gwraig o Lysfaen i'r lle, sef, Robert a Mary Frederick-aelodau oeddynt o Lysfaen. Rhoddasant eu hunain, yn nghyd â'r teulu Bedyddiedig arall oedd yn y Mount o'u blaen, yn aelodau yn Mhenypound, Aberdar, a thrwy eu dylanwad hwy byddai rhai o'u cymmydogion yn myned yn aml gyda hwy i Aberdar i wrandaw yr Efengyl, er fod y pellder dros bedair milldir. Yn y flwyddyn 1827, cawsant yr hyfrydwch o weled dau o'u cymmydogion yn ufuddhau i'r ordinhad o fedydd, sef Evan Morgan (yn ei 50 flwyddyn o'i oedran), Basin Isaf, a James Williams, neu fel y gelwid ef gan yr hen breswylwyr o gylch Mountain Ash, "Siams y Dyffryn," neu, "Siams y Garddwr." Efe oedd garddwr yr anrhydeddus H. A. Bruce, yn awr Arglwydd Aberdar, ac i'w dad cyn hyny. Yn 1829, bedyddiwyd dwy ereill, sef Hannah Davies a Margaret Morgan, gwraig y rhagddywedig Evan Morgan. Gelwid hi gydag anwyldeb mawr gan bobl y Mount yn Modryb Magws. Yr oedd ganddi hi a'i phriod, yn ogystal â'r brodyr ereill, dros bedair milldir i gerdded i Aberdar, etto, byddent yno yn gysson a phob amser yn brydlon. Ac wedi i Evan a Modryb Magws symmud i'r Basin Isaf, yr oedd ganddynt oddiyno dros bedair milldir i ddyfod i'r Mount, etto, nid oedd neb yn fwy cysson nâ hwy yn y moddion a'r cyrddau. Yn y flwyddyn 1832, bedyddiwyd dau ereill, sef Richard Richards a Gwenllian Thomas.