Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan Price, nes yr oeddynt yn disgyn yn y pellder draw yn nghanol llongyfarchiadau y dorf fawr ag oedd yn lygad-dystion o'r weithred. 'Dyna i chwi,' meddai, enghraifft bur dda o'r hyn yw 'bwrw allan gythreuliaid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Diangodd y ddau sant am eu bywyd, er nad oedd yno genfaint o foch i fyned iddynt. Y dydd hwnw gofalwyd gosod y capel yn ddyogel mewn ymddiriedolaeth i'r Bedyddwyr.

Er fod y capel erbyn hyn wedi ei adfeddiannu i'r Bed- yddwyr drwy ymdrech egniol Price, nid oedd yr helynt ar ben etto. Yr oedd Dewi a'r Seintiau wedi gosod yr achos yn llaw Mr. Owen, Cyfreithiwr, Pontypwl, yr hwn a elwid yr adeg hono "the workmen's friend," oblegyd efe yn gyffredin gai ei bennodi i ddadleu achosion y dospaath gweithgar; ac yr oedd bob amser yn bur arwraidd a llwyddiannus yn ei frwydrau drostynt. Credai y Saint fod eu hachos hwythau yn ddyogel yn ei law; ond nid oeddynt wedi cyfrif gallu a medr cyfreithiol y gwr bach gwridgoch a phengrych oedd yn weinidog yn Mhenypound, Aberdar. Yr oedd yr achos o du y Bedyddwyr wedi ei ymddiried i Mr. Frank James, Merthyr, gan Price. Ymgeisiodd cyfreithiwr y Saint gael gan Price dalu treuliau oedd ddyledus iddo, ond methodd, a gorfu i Dewi Elfed eu rhoddi iddo y y dydd y bwriwyd ef allan o'r capel. Ar ol hyn gwysiwyd y Dr. gan Dewi Elfed, drwy ei gyfreithiwr Owen, am assault, a gofynai iawn am y niwed oedd wedi ei dderbyn drwy y troediad. Anfonodd y Dr. yn ol ato, a dywedodd fod perffaith roesaw iddo fyned yn mlaen a'r case, y buasai yn ei gyfarfod ef a Dewi Elfed yn y llys, ond ei fod yn hyspysu mai y peth cyntaf fynai yn ei erlyniad oedd dynoethi Dewi yn y llys er gweled y fan oedd wedi derbyn y niwed a'i archwilio yn llwyr, er gweled faint o niwed oedd wedi ei dderbyn. Rhoddodd hyn derfyn ar y cwbl, ac ni chlywodd Price ddim mwyach am dano. Wedi i Price a'i eglwys yn Aberdar ad-feddiannu y capel i'r Bedyddwyr, ail-agorwyd ef ganddynt yn ddioed. Am hyn edrydd Price yn ei Jubili.

'Y dydd Sul canlynol, Tachwedd, 1851, ail agorwyd y capel gan Eglwys Calfaria ac Eglwys y Cwmbach, a gosodwyd yr achos o dan nawdd y Parch. J. D. Williams ac Eglwys y Cwmbach. Fel yna terfynodd y frwydr hon. Ond arosodd effeithiau cythreuleiddiwch David Jones, a chamsyniad ffol a phengamrwydd rhai Bedyddwyr yn fawr ar