Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aberaman, ac yn wir nid yw yr effeithiau weli llwyr ymadael hyd y dydd hwn."

Ond er cymmaint oedd y stormydd a'r helbulon yr aeth yr eglwys hon drwyddynt, cafodd ei bendithio à dynion da yn weinidogion arni, megys y Parchedigion W. Jones, yn awr Philadelphia, Abertawe; T. Abertawe; T. Nicholas; Morgan Phillips, yn nghyd a i gweinidog da a gweithgar presenol y Parch. T. Davies.

Bu Price yn llafurus a diwyd iawn yn dechreu achos Seisnig yn Aberdar. Yr oedd ganddo lygad craft i weled angenion y gymmydogaeth, a gallu arbenig i ddarparu ar eu cyfer, yn neillduol yn ei gylch a'i gyssylltiadau crefyddol. Dechreuodd efe yr eglwys hon, fel y gwneir yn gyffredin wrth gychwyn achosion newyddion, trwy fyned a'r cyfarfodydd o dy i dy. Cyflogodd ystafell fawr berthynol i'r Horse and Groom am dymhor byr; yna, cafodd un mwy cyfleus yn ymyl y Black Lion. Bu y frawdoliaeth yno hyd symmudiad yr eglwys Gymreig i Gapel Calfaria, pryd y rhoddwyd yr hen gapel i'r Saeson, a chorffolwyd hwynt yn eglwys reolaidd gan Price ar y 15fed o Chwefror, 1852. Dewiswyd y Parch. James Cooper yn weinidog; ond ni fu ei arosiad yn hir yn Aberdar, er ei fod yn yn ddyn rhagorol, ac yn weinidog da. Yn mhen tair blynedd wedi corffoliad cyntaf yr eglwys, diflanodd yn llwyr, a chauwyd y capel i fyny yn mis Mawrth, 1855. Ar y dydd Sabboth, Mai y 13eg, yn yr un flwyddyn, agorwyd y capel drachefn gan Price, yn cael ei gynnorthwyo gan Mr. Edward Gilbert Price i ofalu am yr Ysgol, Mr. William Davies i ofalu am y canu, a Mr. John Lewis i ofalu am y ddiaconiaeth. Dyma y cwbl," adroddai Price, "oedd genym i ymddybynu arnynt i ddechreu yr achos newydd. achos newydd." Ond ymdrechodd Price yn egniol gyda'r brodyr da hyn, a chynnyddodd yr achos yn raddol. Yn y flwyddyn 1856, gollyngwyd 81 o aelodau Calfaria er ffurfio eglwys yma etto, yr hon a gorffolwyd yn rheolaidd, ac a dderbyniwyd i'r Gymmanfa y flwyddyn hono. Tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd un newydd a hardd yn yr un man â'r hen dy. Agorwyd ef Mawrth yr 8fed, 1857, gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. G. P. Evans, York Place, Abertawe, (gweler Gwron Mawrth 14, 1857). Bu yr eglwys, fel cangen o Galfaria, dan arolygiaeth a gofal Price hyd sefydliad Mr. James Owen, yn awr o Mount Pleasant, Abertawe, yn