Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weinidog arni yn y flwyddyn 1860, a fu yn llwyddiannus i godi achos llewyrchus yn y lle.

Bron yn yr un adeg codai yr eglwysi yn Methel, Abernant, a'r Ynyslwyd; ac arferai y Dr. yr un diwydrwydd ac egni gyda hwynt ag a ddangosasai gyda r cangenau ereill. Mynychai pobl Abernant y cyfarfodydd crefyddol yn Nghalfaria, oddigerth yr Ysgol Sul a'r cyfarfodydd gweddio, y rhai a gynnelid, fel y dywedir, ar hyd y tai yn eu cymmydogaeth. Ceisiai Price drefnu y cyfarfodydd yn y cangenau i beidio bod ar yr un nosweithiau, ac felly, yn gyffredin, yr oedd yn gallu bod yn bresenol ynddynt. Nodweddid ef yn neillduol gan ffyddlondeb a chyssondeb yn ei fynychiadau i'r cyfarfodydd wythnosol yn y cangenau, ac yr oedd dylanwad mawr gan ei bresenoldeb ar yr aelodau gan y gwelent ei fod yn teimlo y fath ddyddordeb ynddynt. Yr oedd hyn yn effeithio yn ddaionus hefyd ar y cymmydogion a'r gwrandawyr, gan ei fod yn eu tynu i'r cyfarfodydd hyn. Yn gweled fod yr achos yn llwyddo yn gyflym yn Abernant, penderfynwyd yn y flwyddyn 1856 adeiladu ysgoldy eang yno, yr hyn a wnawd yn ddioedi; oblegyd cawn ei fod yn cael ei agor ar y 25ain o Ionawr, 1857, a phregethwyd ynddo am y waith gyntaf gan Dr. Price ar nos Sul, y dyddiad crybwylledig. I gyfarfod y ddyled drom o £374 12s. oedd yn awr ar Bethel, mabwysiadodd y Dr. gynllun rhagorol, yr hwn a wnaeth y baich yn hawdd i'w ddwyn gan y bobl. Sefydlodd yn yr eglwys yr hyn a alwai yn Gymdeithas Ceiniog yr Wythnos. Cyfranai pob aelod ei geiniog bob wythnos, ac felly cyd-ddygent y baich yn ogoneddus. Yn fuan, aeth yr ysgoldy yn rhy fychan, felly rhaid oedd codi capel newydd yn llawer eangach: ac ar yr 20fed o Fai, 1862, fel y cawn hanes, gosodwyd y garreg sylfaen, neu goffadwriaethol, gan Mrs. Hosgood, Rose Cottage, Abernant. Rhoddwyd an- erchiad pwrpasol ar yr achlysur gan y Dr., yn cael ei gynnorthwyo gan y Parchn. W. Williams, Mountain Ash; W. Harris, Heolyfelin; Dr. John Emlyn Jones, Caerdydd; a T. E. James, Glynnedd, yr hwn a wnaeth gân odidog ar "Bethel fach yn myn'd yn Bethel fawr." Bu y Dr. drwy y blynyddau yn dra charedig i eglwys Bethel; teimlai ddyddordeb neillduol yn newisiad y gweinidogion fuont yn gweinidogaethu arni o bryd i bryd. Cawn ei fod wedi traddodi amryw ddarlithiau yn rhad i'r eglwys hon er dileu ei dyledion. Bu yn enwog yn ei weithgarwch a'i ffydd-