Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

londeb yn gyssylltiedig â hi, yn neillduol tra fu dan ei ofal neillduol ef ac ar adegau y byddai heb weinidog. Da genym nodi er lleied a gwaned oedd Bethel, pan broffwyd- ai y caredig frawd T. ab Ieuan am dani, ei bod bellach wedi dyfod yn Bethel fawr dan weinidogaeth lwyddiannus ei gweinidog presenol y Parch. John Mills, yr hwn hefyd sydd yn aelod gwreiddiol o Bethel.

Derbyniodd yr Ynyslwyd yr un gofal a charedigrwydd gan y Dr. a'r fam-eglwys yn Nghalfaria ag a wnaeth Abernant, ond yn unig ei fod wedi pregethu yn amlach yn Methel nag a wnaeth yn yr Ynyslwyd. Y tro cyntaf y cawn iddo bregethu yn yr Ynyslwyd, yn ol ei ddyddiadur, yw ar y 29ain o Ragfyr, 1858. Ei destyn oedd Esay liv. "Helaetha le dy babell." Traddododd araeth yn y gyfeillach y noson hono hefyd ar "Ddiwedd y flwyddyn;' ond tebyg ei fod wedi pregethu yno yn flaenorol: fodd bynag, cawn ei hanes yn rhoddi anerchiadau yn yr Ysgol Sabbothol yno cyn hyn. Cymmerodd y Dr. lawer iawn o ddyddordeb gydag adeiladu yr ysgoldy a'r ty annedd yn y flwyddyn 1858, y rhai oeddynt yn werth £254 17s. 8c.; ac yn y flwyddyn 1862 adeiladwyd y capel eang a phrydferth presenol, yr holl waith yn cael ei arolygu gan y Dr. ei hun. Agorwyd ef yn gyhoeddus ar y dyddiau Mercher ac Iau, y 4ydd a'r 5ed o Chwefror, 1863. Ond yr oedd Price wedi pregethu ynddo y nos Sul blaenorol. "Holl gynghor Duw" oedd y pwnc, ac wedi y bregeth bedyddiodd saith o gredinwyr proffesedig yn y fedyddfa newydd. Y cyntaf o'r saith oedd Mr. David Davies, yr hwn oedd wedi treulio dros bymtheg mlynedd ar hugain yn aelod gyda y Methodistiaid. Hyd yma yr oedd yr eglwys yn aros yn gangen dan nawdd a gofal y fam-eglwys, ac wedi ei hymadawiad bu yn llwyddiannus iawn dan ofal gweinidogaethol y Parch. Thomas John, yn awr o Ffynnonhenry. Olynwyd ef gan y Parch. R. E. Williams (Twrfab), y gweinidog presenol, ac y mae yr eglwys yn parhau yn llewyrchus a blodeuog dan ei weinidogaeth.

Yr oedd golwg fawr gan y Dr. ar y Gadlys, y gangen olaf a godwyd gan Calfaria. Arferai Price, pan yn siarad yn gyhoeddus am hanes yr eglwysi Bedyddiedig yn y dyffryn (a gwnai hyny yn aml yn ei flynyddau olaf), ei galw yn gyw gwaelod y nyth. Sefydlwyd Ysgol Sul yn y Gadlys yn y flwyddyn 1858. Cynnaliwyd yr ysgol gyntaf yn nhŷ Dan James, yr hwn a fu yn llafurus iawn ynddi, ac