Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aberdar, yn agos i 20 mlynedd yn ol; a hon yw y chwechfed eglwys a gorffolwyd o aelodau yn cael eu gollwng yn rheolaidd ac yn gariadlawn o Eglwys Calfaria, yn ystod y blynyddau diweddaf. Ac y mae pob un o'r eglwysi hyn yn alluog i, ac yn cynnal gweinidogion eu hunain. A bydd yn dda gan ein cyfeillion wybod fod y fam-eglwys yn para yn gryf ac iachus, ac yn cynnal ei gweinidog ei hun mewn cysur ac anrhydedd. Mae yn ffaith deilwng o sylw fod pob un o'r eglwysi hyn wedi ymadael â'r fam-eglwys mewn heddwch, cariad, a brawdgarwch. Nid oes cymmaint â gair croes wedi bod rhwng y gweinidog a'r fam-eglwys o'r naill du, a'r eglwysi newydd o'r tu arall. Mae perffaith unoliaeth a brawdgarwch wedi ac yn parhau i lywodraethu pawb o honom o'r henaf hyd yr ieuengaf."

Bedyddiodd y Dr. am y waith gyntaf yn nosparth y Gadlys prydnawn dydd Sul, Ebrill y 5ed, 1863, a rhoddodd y cymundeb cyntaf yn y Gadlys nos Sul, Ionawr 24, 1864. Nos Sul cymundeb, Mai yr 21ain, 1865, yn yr hwn yr oedd y Dr. yn bresenol, rhoddwyd galwad unfrydol i'r doniol bregethwr, Mr. D. Davies (Dewi Dyfan), myfyriwr o Bontypwl; cyflwynwyd hi iddo ar y 23ain. Derbyniodd hi gyda boddlonrwydd. Rhoddodd Price y cymundeb am y tro olaf yn y Gadlys fel eglwys dan ei ofal nos Sul, Rhagfyr y 24ain, 1865. Ymsefydlodd Dewi Dyfan yma, a chynnaliwyd cyfarfodydd ei urddiad ar y dyddiau Sul a Llun, Ionawr y 14eg a'r 15fed, 1866. Bu yn dra llwyddiannus hyd ei ymadawiad i Aberteifi yn 1875. Olynwyd ef gan y gweinidog presenol, y Parch. B. Evans, gynt o Dy Ddewi, yr hwn, yn ngwyneb llawer o anfanteision achoswyd trwy lwyr attaliad gweithfeydd haiarn ac alcan y Gadlys, sydd wedi cael ffafr yn ngolwg Duw a dynion.

Dengys y nodion geir yn nghofnodlyfr y Gadlys am 1865 fawr ofal Dr. Price am yr eglwys hon. Mae y manylion am ei fynychiadau a'i ymrwymiadau i'r eglwys yn ystod y flwyddyn yn rhy luosog i'w croniclo yn llawn yma. Ceir ef yn pregethu ar foreu neu nos Sul yn fynych, yn tori bara bob mis, yn yr Ysgol Sul yn aml, yn lled gysson yn y cyrddau gweddïo a'r cyfeillachau, ac hefyd yn bedyddio â threfnu amgylchiadau allanol yr eglwys.

Credwn fod y braslinelliad ydym wedi ei dynu o gyssylltiad Price â changenau ei eglwys yn ddigon i ddangos ei weithgarwch difefl, ei egnïon parhaol, ei benderfyniad diysgog, ei ofal diflin, ei serch ymlynol, a'i fawredd dihafal. Hoffa yr hen bobl siarad yn fynych am yr amser hwnw, a