Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chredant nad oedd tebyg y Dr. i'w gael i weithio a chodi eglwysi newyddion. Dywedodd un o honynt wrthyf yn ddiweddar, "Gellwch ddweyd yn dda am y Dr., poor fellow, ac wedi i chwi ddweyd neu ysgrifenu eich goreu am dano, bydd ei waith yn llawer mwy wed'yn. Ni fedr neb ddweyd gormod am dano yn ei berthynas â Bedyddwyr Aberdar." Yr ydym o'r un farn â'r hen frawd hwnw, oblegyd y mae codi cynnifer o ysgoldai a chapelau newyddion mewn tymhor mor fyr yn golygu gwaith a llafur anarferol, heblaw fod ganddo amryfath ddyledswyddau pwysig ereill yn galw am ei amser a'i wasanaeth; ac er fod ganddo gynnorthwywyr effeithiol yn ei ddiaconiaid gweithgar a brodyr da ereill oeddynt yn aelodau yn y cangenau hyn, mynai Price gyda phobpeth i'r baich trymaf bwyso ar ei ysgwyddau ei hun; ac felly yma.

Yn ei Drem, fel y crybwyllasom yn barod, noda y Dr. allan 21 o'r eglwysi ydynt wedi hanu o Galfaria. Fel hyn yr ysgrifena:—

EGLWYSI A GODWYD GAN EGLWYS CALFARIA.

"Yr wyf am osod yr eglwysi hyn i lawr yn ddaearyddol, yn hytrach nag yn ol eu hoedran:—Pontbrenllwyd; Ramoth, Hirwaen; Bethel, Glynnedd; Heolyfelin, Resolfen. Llwydcoed, Gadlys, Tabernacl, Merthyr Tydfil; Carmel (Seisnig); Bethel, Abernant; Gwawr, Aberaman; Bethania, Cwmbach; Aberaman (Seisnig); Cwmaman; Abercwmboye; Rhos, Mountain Ash; Nazareth, Ferndale; Penrhiwceibr; Penrhiwceibr (Seisnig)."

Ond gwelir nad yw y rhai hyn yn gangenau uniongyrchol o Galfaria. Mae rhai o honynt yn blant y plant: maent yn ŵyrion, os nad gorŵyrion, rai o honynt. Felly, nid ateba lawer o ddyben i ni eu dylyn yn fanwl, ac ni wnawn amgen nodi eu bod wedi cael llawer o sylw a chynnorthwy ymarferol y Dr. mewn gwahanol amgylchiadau o bryd i'w gilydd.

Bellach, yr ydym yn cael yr achos Bedyddiedig wedi lledu ei esgyll drwy yr holl ddyffryn, ac y mae y gwaith o adeiladu capelau, &c., ar ben. Fel hyn y dywed gohebydd yn ei adroddiad o gyfarfodydd ordeiniad Dewi Dyfan yn Seren Cymru am Ionawr y 26ain, 1866:—

"Mae Dr. Price mewn fix, yn methu yn deg a gwybod b'le y ca le i godi capel etto. Mae wedi codi capeli yn mhob man ag oedd galw am