Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

danynt, ac os na wna rhywle newydd agor yn fuan, bydd yn sicr o fyned allan tua'r Iwerddon neu rywle, oblegyd helaethu terfynau teyrnas Emanuel yw ei fwyd a'i ddiod. Mae wedi llanw dyffryn Aberdar ag egwyddorion y Bedyddwyr; ac y mae fel tad parchus a thyner yn nghanol yr eglwysi sydd wedi myned allan o'i eglwys, a'u gweinidogion."

Nid anmhriodol, credwn, fyddai i ni yn awr edrych yn fyr ar y modd hwylus y gweithia yr eglwysi hyn, a dyferu gair am eu teimladau tuag at y Dr. fel eu tad mewn ystyr, neu fel yr ystyrid ef yn gyffredin, tywysog y Bedyddwyr yn y cwm. Cawn weled hyn yn ngoleuni yr undebau gwahanol berthynent i eglwysi ac Ysgolion Sul Dyffryn Aberdar.