Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anrhydeddus gan Father Price, a chyfranogasant yn helaeth o'r un yspryd undebol â'r fam—eglwys a'r chwiorydd hynaf. Dan nawdd yr Undeb anwyl hwn cyfarfyddai nifer o ysgolion yn chwarterol yn nghyd i gynnal cyfarfodydd adrodd a chanu. Rhoddwn yma yn enghreifftiol adroddiad byr am un o'r cyfryw a ymddangosodd yn Seren Cymru am Ragfyr 8, 1871. Gelwid ef gan y gohebydd yn "Gwrdd Modrwyog," a chynnaliwyd ef yn Nghalfaria Tachwedd 28, 1871.

"Yr oedd yno bump o Ysgolion Sabbothol wedi cyfarfod mewn modrwy undeb a chariad. Dyna gwrdd! Yr oedd Ysgol Calfaria yno yn serchog a lluosog; Ysgol y Gadlys fel llu banerog; Ysgol Bethel fel byddin Duw; Ysgol Ynyslwyd fel duwies addysg, a'i thorf ysgolheigion; ac Ysgol Carmel fel teulu nefol. Taflai angel heddwch fodrwy cariad am danynt, gan eu gwneyd fel un am awr a hanner o gwrdd. Cafwyd adroddiadau, areithiau, barddoniaethau, a cherddoriaeth o'r fath oreu. Yr oedd y capel yn gysurus o lawn, a phawb yn teimlo dyddordeb yn ngweithrediadau y cyfarfod. Bydd cyfarfod arall etto yn mhen rhyw dri mis yn yr Ynyslwyd, a gobeithio y bydd cystal a'r diweddaf. Frodyr, dewch i'r rhengau. Codwch arf yn erbyn brenin y nos. Boed pawb yn perthyn i gatrodau yr Ysgol Sul."

Hefyd, cynnelid eisteddfodau blynyddol o fri ac enw ganddynt: torid allan waith i bob dosparth o'r bobl ieuainc,—yn draethodwyr, beirdd, adroddwyr, a chantorion, a cheid cystadleuaethau tỳn a phwysig. A ganlyn ydynt rai o ddosranau y testynau gwahanol,—traethodau, barddoniaeth, ieithyddiaeth, grammadegiaeth, daearyddiaeth, darllenyddiaeth, cerddoriaeth, &c.

Yn y Gwron a'r Gweithiwr ceir mynegiadau helaeth o'u gweithrediadau, y rhai a ddangosant fod bywyd helaeth yn meddiannu eglwysi ac ysgolion y Bedyddwyr yn y dyffryn yn y cyfnodau hyny. Troai yr oll o amgylch Price, yr hwn oedd fel haul mawr yn nghyssawd Bedyddiedig y cylch; taflai fywyd i'r holl gorff, a chadwai wres cariad a brawdgarwch yn yr holl gyfansoddiad. Ni fyddai yr yspryd unol a nodwn yn fwy amlwg un amser na phan y byddai yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu. Troai y fam-eglwys a'i phlant, yn neillduol y tair ieuengaf, allan yn dorf gariadus yr adeg hon, ac arweinid hwy gan Price i lan yr afon pan fuasai yn bedyddio allan, neu cyfarfyddent