Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn nghyd yn y capel os mai yno y gweinyddid yr ordinhad. I ddangos hyn yn llawnach, dyfynwn etto o goflyfr y Gadlys, a chawn gipdrem ar bethau fel yr oeddynt pan oedd y gangen dan ofal Price:—

Heblaw hyny (meddai yr ysgrifenydd), yr oedd yn arferiad gan y pedair ysgol i gyfarfod â'u gilydd pan y byddai Dr. Price yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yr Arglwydd. Prydnawn dydd Sul, Hydref y 7fed, 1860, aethom gyda'n gilydd i'r lan tua Bethel, Abernant, i weled Mr. Price yn bedyddio pedwar ar broffes o'u ffydd yn y Gwaredwr. Hwn oedd y tro cyntaf yn Bethel.[1] Drachefn, Sul, Mai y 5ed, 1861, aethpwyd i fyny gyda'n gilydd i Bethel, pryd y bedyddiwyd deg gan Mr. Price. Dydd Sul, Ionawr y 5ed, 1862, gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd am y waith gyntaf yn Nosbarth y Gadlys ar Gomin Hirwain, pryd yr ymgyfarfyddodd y pedair ysgol i weled y Dr. yn bedyddio pedwar o bersonau. Pregethodd Mr. Price ar y rhan olaf o'r 26 adnod, yn y xii. bennod o Exodus, Pa wasanaeth yw hwn genych?' Prydnawn dydd Sul, Ebrill 5ed, 1863, cyfarfyddodd yr ysgolion o flaen yr ysgoldy mewn trefn i fyned i weled pump o'r Gadlys yn ufuddhau i fedydd, a weinyddid gan Mr. Price yn afon Cynon, ger hen Brewery Trecynon. Aethpwyd i fyny dan ganu, ac yr oedd yr olygfa yn hardd iawn. Dyma y tro cyntaf i'r ordinhad gael ei gweinyddu yn yr afon uchod gan Ddosbarth y Gadlys."

Rhydd y ffeithiau uchod i ni olwg glir ar y modd y byddai Price yn arfer ac yn hyfforddi y cangenau ac yn eu cadw mewn cyssylltiad parchus â'r fam-eglwys o hyd. Parhaodd yr undeb agos ac anwyl hwn yn hir wedi i'r eglwysi fyned dan ofal gweinidogaethol ereill. Byddai yn olygfa gyffredin iawn flynyddau yn ol, pan oedd y Dr. yn ei ogoniant, i weled y pedair ysgol, drwy ragdrefniant, yn troi allan ar brydnawn Sul i gwrdd â'u gilydd yn nghanol y dref, ac yna ymdeithio dan ganu i un o'r capelau i gynnal cyfarfodydd adroddiadol, a byddai y Dr. yn eu plith fel brenin, yn cael sylw a pharch pawb, ac yn yr adeg hono yr oedd ei air braidd yn ddeddf yn mhob peth. Bu adeg yn hanes y Bedyddwyr yn Aberdar pryd yr edrychid

  1. "Yr oedd Dr. Price," adrodda y Parch. J. W. Moore (Darfab) yn ei Draethawd ar Hanes Eglwys Bethel, Abernant, "wedi cael y fraint of fedyddio llawer o ymgeiswyr am fedydd o'r gangen hon yn afon Cynon, gerllaw y Trap [yn flaenorol i'r uchod]. Bedyddiodd hefyd amryw yn y nant uwchlaw yr ysgoldy, mewn man cyfleus a wnaethpwyd at y pwrpas trwy garedigrwydd Mr. Fothergill."