Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arnynt yn ddirmygedig, ac y diystyrid hwy yn fawr, yn neillduol pan fedyddient yn yr afon. Dirmygid llawer ar Price pan yn bedyddio, ond yr oedd digon o'r arwr ynddo i wrthsefyll pob ymosodiad, ac i allu ymddwyn tuag at lawer wawdient yr ordinhad gyda dystawrwydd dirmygol, tra ar brydiau ereill rhoddai ergydion trymion i'r gwrthwynebwyr, a boddlonai hyn y Bedyddwyr yn fawr; ac, yn wir, yr oedd llawer o'r gelynion yn edmygu ei wroldeb, ac yn mwynhau ei ddonioldeb a'i ffraeth-atebion i lawer, er fod rhai o honynt weithiau yn gwrs ac yn myned yn mhell. Yr oedd dirgelwch mawr mewn myned a'r pedair ysgol dan ganu at lan yr afon. Yr oedd hyn yn gwneyd y bedydd yn boblogaidd, yn tynu torfeydd mawrion i weled, a chlywed lleferydd dystaw, etto effeithiol, y bedydd Cristionogol a'r bedyddiedigion, yn gystal a'r anerchiadau grymus geid gan Price, a brodyr da ereill a'i cynnorthwyent yn achlysurol. Hefyd, yr oedd hyn yn dylanwadu yn dda ar y Bedyddwyr eu hunain, gan eu bod yn uno eu nerth a'u dylanwad ar adegau o'r fath i ddal allan egwyddorion gwahaniaethol y Bedyddwyr o flaen y byd, ac i roddi tystiolaeth eglur a digamsyniol o blaid y "gwirionedd fel y mae yn yr Iesu.' Fel y nodwn, cafodd Price lawer o'i boeni pan yn yr afon yn bedyddio, ond ni thyciai dim, beth bynag a wneid iddo. Yr oedd gan fedydd a Bedyddwyr amddiffynydd cadarn ynddo.

Y mae llawer o ystoriau doniol yn cael eu hadrodd am Price yn gyssylltiedig â'r bedyddio yn afon Cynon a manau ereill, y rhai sydd, yn wir, yn dra nodweddiadol o hono. Yr oedd, un tro, yn bedyddio yn afon Cynon, yn ymyl y Bont Haiarn, ac yr oedd, fel arferol, dyrfa aruthrol wedi dyfod yn nghyd, ac yn eu plith lawer o wawdwyr. Y tro hwn, yr oedd dau Sais-fasnachwr cyfrifol yn y dref yn siarad yn uchel â'u gilydd er aflonyddu ar Price. Edrychai yntau arnynt yn awr ac eilwaith, ac äi yn mlaen â'i anerchiad; ond o'r diwedd, symmudodd gam neu ddau yn mlaen i wynebau yr aflonyddwyr, a dywedodd gydag awdurdod, "I thought it was the devil or some Englishmen!" Gosododd hyn glo ar eu geneuau, a chafodd Price lonydd am y tro hwnw.

Dro arall, yr oedd yn bedyddio yn yr un lle, ac yn mhlith y dyrfa enfawr oedd wedi dyfod i'r bedydd, yr oedd llawer o dirgloddwyr (navvies) y rhai oeddynt yn lluosog yn Aberdar yr adeg hono, yn gwneyd y cledrffyrdd