Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

newyddion—wedi dyfod i weled y bedydd. Taflent dyweirch i'r dwfr er aflonyddu y bedyddiwr, a phan "aeth i waered i'r dwfr," taflasant gi neu ddau i fewn i'r afon. Edrychodd y Dr. arnynt—cyfeiriodd ei fys atynt, a dywedodd yn Saesneg, "Dacw nhw! Saeson ydynt. Mae mwy o synwyr yn mhenau ceffylau Cymru nag sydd yn mhenau y Saeson!" Profodd hyn yn effeithiol i'r gweilch, a rhoddwyd llonyddwch i'r Bedyddiwr gyflawni ei waith pwysig ac anrhydeddus.

Unwaith, pan yn bedyddio yn ymyl Pont Haiarn Trecynon, cododd rhyw fachgenyn yn ei erbyn, ac aflonyddai yn fawr arno. Pan oedd Price ar fedr myned ato, gwaeddodd un o'i ddiaconiaid (yr hen frawd da, William Davies), allan, "Mr. Price, peidiwch gwneyd sylw o hwna! Under value, under value!" "O'r goreu, William," atebai y Dr., "gwnaf eich cynghor. Gwyddoch chwi i'r eithaf faint yw gwerth taclau o'r fath." Bu "under value" yn cael ei arferyd yn gyffredin am hir amser wedi hyny yn y gymmydogaeth.

Yr oedd dau aelod cyfrifol gyda r Annybynwyr, dro arall, wedi dyfod i weled y bedydd, a safent yn ymyl yr afon. Pan oedd Price yn arwain brawd i'r dwfr i'w fedyddio, clywodd un o'r Annybynwyr yn dweyd wrth y llall, "Edrych ar y diawl yn arwain y diawl hwna i'r dw'r." Cododd Price ei olwg ato, a dywedodd, "Ai y diawl ddywedodd wrthyt ti, y diawl, fy mod yn arwain y diawl i'r dw'r? Dylasai fod cywilydd ar dy wyneb." Trodd y ddau Annybynwr ymaith dan gwmmwl o warth a chywilydd, a chrechwenai y dyrfa gyda boddlonrwydd am wroldeb Price yn ngwyneb y fath ddirmyg ar un oedd yn rhoi ufudd-dod i orchymynion Crist.

Yr oedd yr enwad a'r egwyddorion Bedyddiedig yn bur ddyogel yn llaw Price, a theimlai Bedyddwyr y dyffryn hyny, ac felly, ymddiriedent lawer iawn iddo, a meddylient bob amser yn uchel am dano.

Yr oedd Price yn bur flaenllaw gyda phob achos pwysig ddaliai berthynas â'r enwad yn y cwm. Anfoddlonai yn fawr i'r brodyr gadwent draw mewn taro, fel y dywedir. Yr oedd efe bob amser yn nghanol y fflam, os byddai tân yn bod. Os chwythai storom heibio unrhyw eglwys yn y dyffryn, byddai efe yn ei dannedd, mewn trefn, os gallai mewn unrhyw fodd, ddyogelu yr achos, a chadw y "defaid rhag y bleiddiaid." Gwelai berygl o draw. Yr oedd ei