Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rybuddion yn brydlon, a'i gynghorion yn bwrpasol a dyogel. Bu yn gyfarwyddwr cywir a diwyro i'r holl eglwysi drwy y dyffryn mewn achosion o gyfyngder a thrallod. Yr oedd hefyd yn ddiarebol am ei gyssondeb gyda phob peth, ac yn enwog am ei brydlondeb yn ei holl gyflawniadau. Mewn cyfarfodydd mawrion, cyrddau misol, neu bwyllgorau nid oedd byth eisieu aros i'r Dr. Byddai efe yn ei le yn brydlon, ac yn barod i waith. Rhoddai ei bresenoldeb yn mhob man foddlonrwydd cyffredinol i bawb a'i hadwaenent.

Cydlafuriodd y Dr. yn llwyddiannus â'i frodyr yn y weinidogaeth drwy y dyffryn. Bu efe fel tad tyner i'r gweinidogion ieuainc, ac yn gyfaill a brawd caredig ac anwyl i'r rhai hynaf. Cydweithiodd yn dda â'r diweddar anwyl frawd, yr Hybarch Ddoctor B. Evans, Castellnedd, pan oedd efe yn gweinidogaethu yn Hirwaen ac Heolyfelin. Buont mewn llawer brwydr galed gyda'u gilydd dros yr achos goreu, a dalient ati fel y dur hyd fuddugoliaeth bob tro. Ffynodd a pharhaodd y teimladau goreu rhyngddo ef a'r awenydd athrylithgar, ´y Parch. W. Williams (Gwrhir), Mountain Ash, ac er fod Mr. Williams yn hynach nâ'r Dr., etto talai warogaeth bob amser iddo, yn herwydd ei allu dihafal a'i ddefnyddioldeb cyffredinol. Cafodd y galluog gerddor a'r doniol bregethwr, y Parch. W. Harris, Heolyfelin, ef yn gyfaill cywir a charedig, a chydweithient bob amser yn hwylus gyda phob mudiad o bwys yn y dref a'r gymmydogaeth. Teimlai ddyddordeb neillduol yn ngweinidogion yr holl eglwysi, a chymmerai hwy yn anwyl i'w fynwes. Galwai yn achlysurol i'w gweled er gwybod eu helynt ac ansawdd yr eglwysi dan eu gofal. Derbyniai y brodyr yn siriol a charedig pan alwent i'w weled yn ei gartref ei hun yn Rose Cottage. Dyfyrai hwynt â'i chwedleuon doniol, a chyfnerthai hwynt â'i gynghorion dwys ac a'i gyfarwyddiadau buddiol. Yr oedd yn rhy fawr ac uchel i neb deimlo yn eiddigeddus wrtho; ac yr oedd wedi ennill y fath safleoedd a dylanwad yn mhob cylch braidd fel nad oedd neb a ewyllysiai ymgystadlu ag ef. Felly bu fyw hyd ei fedd yn heddychol â'i frodyr, a theimlent yn ddieithriad y parch dyfnaf ato. Bu ei syrthiad yn angeu yn golled gyffredinol i achos y Bedyddwyr yn nyffryn poblog Aberdar, ac yn achos o alar mawr i'w frodyr yn y weinidogaeth.