Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn fuan iawn, daeth y Gymmanfa yn y Sir, a'r cyfundeb yn y Dywysogaeth yn fawr a phwysig. Er fod bechgyn cryfion yn weinidogion a lleygwyr ar y maes gan yr enwad yr adeg hono, ac am yspaid maith ei fywyd, megys y Parch. Thomas Davies, Merthyr (yn awr Dr. Davies, Llywydd parchus Coleg Hwlffordd); Dr. J. Emlyn Jones; Dr. B. Evans, Castellnedd; y Parch. N. Thomas, Caerdydd; Lleurwg, E. Evans, Caersalem, Dowlais; Cornelius Griffiths, Seion, Merthyr, gynt, Bryste yn bresenol; Mathetes, Rufus Williams, Ystrad; Rowlands, Cwmafon, yn awr Dr. Rowlands, Llanelli; Dr. Roberts, Pontypridd; Harris, Heolyfelin; R. H. Jones, Abertawe; Thomas Joseph, Ysw., Blaenycwm; Mri. Phillip John, Aberdar; Thomas Edwards, Mountain Ash; Thomas Richards (Gwyno), Mountain Ash; David Davies, Merthyr, a llu ereill ellid nodi; etto, nid hir y bu Price cyn tynu sylw ac ymweithio i'r rhengau blaenaf mewn gallu a defnyddioldeb ymarferol a chyffredinol, a chadwodd ei boblogrwydd yn lew hyd y diwedd. Yr oedd ei wybodaeth eang a chyffredinol yn ei gymmeradwyo i sylw fel un cyfaddas i wneyd gwaith yn yr enwad a thros yr achos. Yr oedd ei fywiogrwydd, ei yni, a'i benderfynolrwydd yn elfenau a edmygid yn fawr, ac o'u herwydd cai ffafr yn ngolwg dynion goreu a blaenaf yr enwad yn Nghymru. Etholid ef bob amser ar bwyllgorau pwysig, a rhoddid iddo yn gyffredin drymwaith i'w wneyd, a cheid ef bob amser yn ewyllysgar a pharod i'w roesawu a'i gyflawnu. Yr oedd efe yn ngwir ystyr y gair yn un o'r business men goreu feddai yr enwad. Dywedai Thos. Joseph, Ysw., Gwydr Gardens, Abertawe, wrthym un tro am dano fel hyn:—"Yr oedd Dr. Price yn naturiol yn business man rhagorol. Gwelai a gwnelai beth cyhyd ag y byddai ereill yn meddwl am dano." Yr oedd hyny, yn nghyd â phethau ereill, yn rhoddi iddo flaenoriaeth ar lawer o frodyr da a gwir deilwng. Gallwn nodi yn fyr rai pethau, ni a gredwn, a brofasant yn dra manteisiol iddo yn ei berthynas â'r enwad yn y sir, ac yn gyffredinol drwy y Dywysogaeth, Yn—

1. Ei sefyllfa fydol.—Y mae hyn, fel y nodasom o'r blaen, wedi bod yn fanteisiol iawn i lawer o frodyr, ac ni fu ei gyfoeth yn anfanteisiol i Price: eithr i'r gwrthwyneb. Ennillai lawer am ei wasanaeth amryfal, ac yr oedd yn derbyn royalty blynyddol am dir oedd wedi ei gael gan ei anwyl briod. Dywedir iddo fod unwaith yn werth o'r