Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pedair i'r pum mil o bunnau, ac yr oedd hyn yn gynnorthwyol iddo ennill safle yn yr enwad.

2. Yr oedd ei wybodaeth gyfreithiol eang, hefyd, yn ei gyfaddasu yn fawr i lanw cylchoedd pwysig yn yr enwad, ac i wneyd gwaith mawr drosto. Nid oedd o fewn cylch Cymmanfa y Bedyddwyr yn Morganwg, ac eithrio cyfreithwyr proffesedig, well cyfreithiwr nâ'r Dr., fel y cawn o bossibl fantais i ddangos etto yn nes yn mlaen.

3. Yr oedd yn awdurdod ar drefnusrwydd a dysgyblaeth eglwysig.— Rhoddodd brofion digonol o hyn yn ei swydd fel golygydd. Cyfeirid ato ofyniadau parhaus ar faterion eglwysig pwysig, y rhai a atebid ganddo yn gysson yn ei fwrdd golygyddol. Heblaw y rhai hyny a gyfeirid ato i'r newddiaduron, derbyniai gannoedd o lythyrau cyfrinachol bob blwyddyn ar faterion o'r un natur, y rhai a gaent ei sylw manylaf. Hefyd, y mae o fewn cylch ein gwybodaeth bersonol ni fod ugeiniau o ddiaconiaid ac aelodau cyfrifol mewn eglwysi, ac yn wir lawer iawn o weinidogion perthynol i'r gwahanol enwadau, yn galw gydag ef yn aml i ymgynghori ag ef ar wahanol faterion pwysig perthynol i'w heglwysi; ac yn gyffredin caent ei gyfarwyddiadau oll yn gywir ac yn profi yn effeithiol.

4. Ei gyflymdra i weled ffyrdd boddhaol i symmud rhwystrau, ac i gymmodi pleidiau gwrthwynebol a'u gilydd.—Yn aml iawn, mewn pwyllgorau a chynnadleddau, codai i fyny bwyntiau anhawdd i'w penderfynu; ond yn fynych yn nghanol y caddug tywyll, a'r brwd—ddadleu, nes braidd y byddai pawb wedi myned yn ben—ben, gwelid Price yn codi ar ei draed, gyda'r bywiogrwydd a'r awdurdod mwyaf, a byddai pawb braidd yn glust a llygad i gyd yn dal ar ei eiriau. Gwelai y ffordd yn glir o'r dyryswch, ac arweiniai ar hyd llwybr dyogel ac esmwyth gyda'r rhwyddineb mwyaf. Yr oedd yn conference man heb ei ail. Arferai yn awr ac eilwaith eiriau doniol, weithiau yn ffinio ar y cwrs, etto bob amser yn effeithiol i ddatgan ei feddwl ac i egluro ei bwyntiau; ac os byddai achosion yn dwyn perthynas â chyfraith, yn gyffredin adroddai adranau y gyfraith yn gyssylltiedig â hwynt, a rhoddai y chapter and verse am danynt.

5. Ei yspryd anturiaethus.—Yr oedd yn hynod am hyn. Yn mlaen yr elai er pob perygl, ac yn fynych troai trwy ei wroldeb a'i yspryd penderfynol lawer o feini trymion oddiar ffordd cerbyd yr achos, a llawenychid yn gyffredinol yn ei lwyddiant. Pennodid ef braidd yn ddieithriad ar