Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bwyllgorau adeiladu ysgoldai a chapeli; oblegyd yr oedd yn nodedig am ei wybodaeth o barthed i ddalysgrifau (leases), gweithredoedd capelau, yn nghyd ag ammodrwymau (contracts), ac mewn achosion o'r natur hyn yr oedd yn hynod ymarferol. Nid yn hawdd yr elid heibio iddo. Hefyd, arweiniai mewn achosion cyfreithiol pan fuasai rhai o'r fath yn codi. Yr oedd ei gynghor bob amser yn ddoeth a phwrpasol, a gellid gweithredu yn ddyogel yn ol ei gyfarwyddiadau. Cafwyd prawfion pur eglur o hyn yn erlyniad Gravel gynt a Chymmanfa Morganwg. Y prif symmudydd yn yr achos amddiffynol oedd Price, a bu o gynnorthwy mawr i bwyllgor y Gymmanfa yn yr achos poenus hwnw. Costiodd y gyfraith hono lawer o arian i'r Gymmanfa, a phoen a blinder mawr i Price, a'r brodyr anwyl ereill oeddynt wedi eu dewis yn bwyllgor dros y Gynımanfa yn yr helynt. Wrth fyned i bwyllgor yn nglyn â'r achos hwn un tro, cwrddodd Mr. Price â hen frawd a adwaenai yn dda (Mr. Morgans, Ystradfawr) mewn gorsaf reilffordd, yn ymddangos ychydig yn ofidus. Gofynodd Price iddo, fel hen gyfaill, yn siriol, fel yr arferai, "Wel, ———, sut yr ydych chwi yn teimlo heddyw?" "Yn wir, Mr. Price," oedd yr ateb, "eithaf tlawd, Syr; yr wyf yn dyoddef ac yn cael fy mlino yn ddrwg iawn gan y gravel." "Wel, Duw a'n helpio ni, frawd bach, meddai Price, "dyna sydd yn fy mlino inau er's llawer dydd." Ond nid oedd y ddau gravel o'r un natur, er eu bod yn ddau eithaf poenus. Bu y Dr. fel cynnadleddwr yn ei holl berthynas â'r enwad yn y sir, yn dra gwasanaethgar mewn ystyr gwleidyddol. Yr oedd yn wleidyddwr goleuedig a blaenllaw, fel y cawn fantais i ddangos etto yn helaethach. Yr oedd ei gyssylltiad â'r wasg am gynnifer o flynyddau fel golygydd, yn ei gyfaddasu i hyn, ac yn ei wneyd yn neillduol o ryddfrydig ei yspryd a'i deimlad. Yr oedd gwleidyddiaeth yr enwad yn y cynnadleddau yn ddieithriad braidd yn codi o gyfeiriad Dr. Price, ac yn gyffredin efe fuasai yn ysgrifenu y penderfyniadau ddalient gyssylltiad â phrif bynciau y dydd. Wrth eu cynnyg siaradai yn eglur, hyawdl, a phwrpasol. Ymferwai ei yspryd brwdfrydig ynddynt, ac nid yn aml y gwrthwynebid ei bwyntiau yn nglyn â phynciau llosgedig y dydd. Codai cewri i'w attegu. Ceid yr enwog Ddr. Roberts, Pontypridd; y Parch. Nathaniel Thomas, Caerdydd, Ysgrifenydd manwl y Gymmanfa, y Parch. Ddr. B. Evans, Castellnedd, a brodyr da ereill, yn