weinidogion a lleygwyr, yn barod i gynnorthwyo gyda y gwaith. Arferid ystyried Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg yn un o'r rhai mwyaf Radicalaidd yn y Dywysogaeth. Yr oedd dawn neillduol gan Price i ddwyn pleidiau mewn eglwysi yn nghyd, ac i ymgymmodi. Nid yn fynych y methai efe gael ffordd arnynt. Byddai ei bresenoldeb yn fynych yn myned yn mhell i symmud y drwg. Yr oedd mor gwrs weithiau fel yr ofnai y rhai llwfr ef. Bryd arall ennillai yn hawdd y pleidiau yn nghyd. Ond pan fethai a chael trefn wedi ceisio trwy bob moddion teg a rhesymol, tebyg y torai y llechau ac y melldithiai y lle cyn ymadael. Gallai efe wneyd hyn heb gael ei alw i gyfrif, ac heb fod nemawr neb yn rhyfeddu at hyny. Price, Aberdar! Gallai efe un adeg wneyd braidd beth a fynai a dweyd yr hyn a ewyllysiai. Yr oedd un amser yn hanes ei fywyd wedi codi uwchlaw cael ei feirniadu.
Yr oedd un tro wedi cael ei bennodi yn un i edrych i fewn i annghydfod oedd wedi cymmeryd lle tuag ardal Maesteg. Yr oedd split wedi dygwydd yno. Wedi treulio y rhan oraf o'r dydd gyda'r helynt, methwyd a'u cael at eu gilydd er pob ymgais o eiddo Price a'r brodyr ereill. O'r diwedd dywedodd y Dr., "Wn I yn y byd mawr beth i wneyd o honoch bellach, os na osoda'I gasgen o bylor danoch, a'ch chwythu i Gwmogwy, i dd——l." Yr oedd Cwmogwy yr adeg hono yn newydd, a llawer iawn o aflerwder yno. Yr oedd hyn yn ymddygiad cwrs iawn, ni a gyfaddefwn, yn y Dr.; etto, y mae yn angenrheidiol cael weithiau yr elfen hon mewn achosion o'r fath. Gallai Price fod yn dyner, caredig, ac yn llawn o gydymdeimlad, ac yn wir nid oedd neb gwell i'w gael o fewn cylch y Gymmanfa yn yr ystyr hwnw; etto, gallai fyned i'r eithafion o'r tu arall.
Yr oedd Price, hefyd, er ei holl alwadau gyda goruchwylion a dyledswyddau pwysig ereill yn pregethu yn aml yn mhrif gyfarfodydd y Gymmanfa a'r enwad yn y sir. Wrth edrych dros hen gyfnodolion yr enwad, yn gystal a phapyrau ereill, rhai o'r cyfryw a enwasom yn barod, cawn fod Price yn dra phoblogaidd, ac yn sefyll yn uchel fel pregethwr yn ei enwad. Dechreuodd ei boblogrwydd yn foreu, a pharhaodd hyd derfyn dydd ei fywyd heb gwmmwl arno, amgen methiant gan wendid a henaint y ddwy flynedd olaf o'i oes lafurfawr. Yr hyn oedd Price yn ei gartref fyddai yn nghylch ei Gymmanfa, a'r hyn fyddai yn nghylch