Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pwysig Cymmanfa fawr y Bedyddwyr yn Morganwg, yr hon cyn ei rhanu oedd y fwyaf a'r bwysicaf yn y Dywysogaeth, dyna oedd ef mewn cylchoedd eangach a phwysicach. Yr oedd Price yn fawr yn Undeb Bedyddwyr Cymru, ac yn fawr hefyd hyd y nod yn Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon. Yn y flwyddyn 1863 llanwodd yn anrhydeddus gadair Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg, yr hon a gynnaliwyd yn Seion, Merthyr, pan y traddododd un o'r areithiau mwyaf ymarferol a phwysig, yr hon a gyhoeddwyd yn Seren Cymru am Mehefin 26, 1863.[1] Ac yn y flwyddyn 1865, yr oedd yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Bu am flynyddau yn aelod ar Bwyllgor Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, y Gymdeithas Genadol Dramor, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, y Gymdeithas Genadol Wyddelig, Bwrdd Addysg y Bedyddwyr, y Gymdeithas Gyfieithadol, Colegau Pontypwl, Hwlffordd, a Llangollen, ac ysgrifena y Parch. B. Thomas (Myfyr Emlyn), yn ei erthygl ragorol yn y Geninen am Gorphenaf, 1888:—

"Ac yr oedd yn aelod braidd o holl bwyllgorau yr enwad; ac nid aelod cysglyd ydoedd, ond y mwyaf blaenllaw ac effro; ac yr oedd Cymru yn rhy fach iddo * * * Yr oedd ei allu, ei ffyddlondeb, a'i wasanaeth pwyllgorawl, yn gyfryw fel nas gellid yn unrhyw fodd fod hebddo. Gwnai ei hun yn angenrheidrwydd, ac ni phasiai braidd gyfarfod Gwanwynol o'r Undeb yn y Brifddinas na chyfarfod Hydrefol mewn manau ereill, na fyddai efe yn cymmeryd rhan gyhoeddus, gan swyno, difyru, ac adeiladu y torfeydd yn ei ffordd wreiddiol a Chymroaidd ei hun."

  1. Tua'r adeg hono graddiwyd ef yn M.A, Ph.D. gan Brifysgol Leipsic, yn Saxony, sef Athraw y Celfyddydau a Doethawr Athroniaeth. Ychydig flynyddau cyn hyn y cynnaliwyd cynnadledd i drafod y pwnc o ystadegaeth fywydol (Vital Statistics). Cawn iddo gymmeryd rhan egniol yn ngweithrediadau y gynnadledd hono; gosododd o'i blaen bapyrau pwysig ar y pwnc dan ystyriaeth; ac fel math o gydnabyddiaeth am ei lafur yn y cyfeiriad hwnw yr anrhegwyd ef â'r graddau colegawl a nodwyd. Am hyny y canodd Aneurin Fardd:

    "Yn nglyn â chred a bedydd,—ceir trawon,
    Cywir, trwyadl celfydd;
    A thrwy'i henwog athronydd
    Aberdar a bia'r dydd."