Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwnaeth ei ymddangosiad ar lwyfan Exeter Hall, Llundain, a phrif esgynloriau trefydd mawrion Lloegr, megys L'erpwl, Plymouth, Manchester, a Birmingham, yn gyssylltiedig â'r cyfarfodydd hyn. Ac mewn trefn i ddangos syniadau uchel y Saeson am dano, nodwn y ffaith iddo, ychydig ddiwrnodau cyn cyfarfod mawr Cambridge, dderbyn telegram yn ei hyspysu fod Mr. Birrell, L'erpwl, yn methu dyfod i'r cyfarfod, ac yn taer erfyn arno i gymmeryd ei le ef yn y cyfarfod mawr cenadol. Felly y bu. Traddododd araeth ardderchog ar y Genadaeth Dramor. Cyhoeddwyd ei anerchiad yn y Cambridge Independent Press, yn llawn, yn rhifyn Sadwrn, Medi 24ain, 1870, ac ymddangosodd cyfieithad o honi yn Seren Cymru am Hydref y 7fed, 1870.

Yn Seren Cymru am Mai 22, 1868, cawn fynegiad mewn Llythyr o Lundain," gan yr anwyl ymadawedig Myrddinfab, hen ohebydd parchus Llundain i'r Seren, am y Dr. dro arall yn Exeter Hall, fel y canlyn:—

DR. PRICE YN EXETER HALL.

"Nos Iau, Ebrill 30ain, set cyfarfod marw cyhoeddus y gymdeithas―y prif gyfarfod, ac i'r hwn y cyrcha pawb braidd a deimla ddyddordeb yn y genadaeth. Yma ymdrechir fynychaf i gael prif siaradwyr yr enwad i lefaru ynddo, ac y mae yn rhaid eu cael yn y fath le a hwn. Mae y neuadd mor fawr fel na fuasai ond ffolineb perffaith i osod neb i anerch y gynnulleidfa aruthrol ond y great guns; ac nid ydym yn credu ein bod yn cyfeiliorni wrth ddywedyd mai y greatest of the great eleni oedd Golygydd Seren Cymru. Os buom erioed yn falch mai Cymro oeddem, y noson fythgofiadwy hono ydoedd, wrth wrandaw a gweled Cymro gwladgarol yn myned drwy ei waith mor greditable ar blatform y neuadd fwyaf enwog, mewn ystyr grefyddol, yn y byd. Yr oedd tri wedi siarad o'i flaen, Kerry, y cenadwr; Clark, Broadmead, Caerodor, yn hyawdi iawn; a D. Wassal, Bath. Pan oedd y diweddaf yn siarad yr oedd y gynnulleidfa yn teimlo yn lled anesmwyth, ac yn myned allan yn gyflym; ond dyna ef yn terfynu, a Dr. Price, Aberdar, yn cael ei alw yn nesaf. Mae yn naw o'r gloch, ond dacw ef yn ymsaethu i'r fron drwy wmbredd o ddynion blaenaf yr enwad, yn weinidogion a lleygwyr—y Barnwr Lush yn unionsyth tu cefn iddo, ao yn cael derbyniad gwresog gan y dorf. Nid cynt yr agorodd ei enau nag y gwelid pob un yn eistedd yn ei le, yn llygadrythu ac yn gwrando fel pe am fywyd. Yr oedd y dylanwad megys yn wefreiddiol,