Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

galon, mae dydliau gwell yn eich aros. Mae y cyfnewidiad tramor wedi myned yn ddychrynllyd o uchel—dros gant per cent—yn awr. Mae hyn o gwrs yn anfanteisiol iawn i chwi ar hyn o bryd; ond nis gall bara yn hir. Yr wyf fi yn gobeithio y bydd i chwi ail ethol Mr. Lincoln i'r gadair lywyddol. Os gwnewch felly, yr wyf yn credu y daw y rhyfel i derfynia buan. Dyna fy nghred I, o leiaf. Bydd i'r rhyfel gael ei chadw yn mlaen hyd nes byddo yr etholiadau drosodd, ond wedi hyny mae yn debyg i mi y daw y pleidiau i ryw ddealldwriaeth am heddwch

"Mae yn dda genyf glywed am farn y Cymry yn America am danaf. Diolch yn fawr iddynt am eu teimladau da, a diolch yn fawr i chwithau am gyfleu syniadau caredig y Cymry i mi. Dyma ddigon ar hyn, neu aiff yr hen ddyn yn rhy falch: mae yn rhaid ei gadw i lawr.

"Ymweliad ag America.—Derbyniwch chwi, a derbynied y lluoedd Cymry sydd drwyddoch chwi yn rhoddi i mi wahoddiad mor galonog i ymweled ag America, fy niolchgarwch gwresocaf. Os byw ac iach, yr wyf yn gobeithio cael derbyn y gwahoddiad calonog a charedig hwn. Yn mhen llai nâ dwy flynedd etto byddaf wedi treulio ugain mlynedd yn weinidog yn Aberdar, ac am y tymhor hwnw wedi bod yn lled gysson a difwlch yn y tresi. Erbyn hyny hefyd bydd Eglwys y Gadlys—yr olaf o ferched Calfaria—wedi ei chorffoli, ac o dan ofal ei gweinidog ei hun, a minau a dim ond Calfaria i ofalu am dani; ac erbyn tair blynedd i yn awr, byddaf wedi cyflawnu fy addewid i'r Cyfundeb Odyddol, trwy basio trwy y cadeiriau llywyddol, ac y mae yn fy mryd i ofyn am hamdden i ddyfod drosodd i'ch gweled. os yr Arglwydd a i myn. Mae eich cynnyg chwi. mewn ystyr arianol. yn bob peth a ddymunwyf; a'm gweddi yw, am ichwi a minau gael ein harbed i mi ei dderbyn yn galonog.

"Eich sefyllfa grefyddol. Nid wyf yn synu dim am y marweidd—dra ysprydol a deimlwch yn y tymhor cynhyrfus presenol. Yn wir, mae rhyfel America yn effeithio ar grefydd yn y wlad hon i lawer mwy o raddau nag y mae llawer yn feddwl. O! am weled yr adeg pan y byddo trais a gormes wedi gadael y tir, heddwch a thangnefedd yn teyrnasu, cariad yn rhwymo holl deulu dyn yn un frawdoliaeth, a Seion Duw yn mwynhau heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tonau y môr.

"Can' diolch i chwi, ac i Gymry America, am eich teimlad caruadd tuag ataf.

"Mae Edward, Emily, a Sarah yn uno â mi mewn serch a chariad Cristionogol atoch chwi, at Mrs. Edwards, ac at y plant oll.