Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Duw, ein Tad ni oll, a'ch arweinio i bob daioni yn y byd sydd yr awr hon, ac a'ch derbynio i'r trigfanau dedwydd yn y byd sydd etto yn ol.

THOMAS PRICE

Aberdar, Gorph 15, 1864.

Yr oedd cyssylltiadau ac ymrwymiadau lluosog ac amrywiol Price yn ei gwneyd yn anhawdd iddo ymryddhau, a chael amser i fyned am daith mor bell. Yr oedd ei gyssylltiadau â chynnifer o gymdeithasau cyfeillgar ac yswiriol fel trysorydd, ymddiriedolwr, a swyddi pwysig ereill—ei gyssylltiadau a'r Wasg Gymreig, yn neillduol fel golygydd Seren Cymru, yn nghyd a'i ofal gweinidogaethol am ei eglwys luosog yn Nghalfaria, fel y noda, yn rhwystrau mawrion ar y ffordd; ond trwy lawer o ragddarparu a threfnu, daeth yn alluog i fyned. Pennodwyd i ofalu am olygiaeth Seren Cymru, yn ei absenoldeb, y Parch. B. John (Periander). Neillduwyd ei fab, Mr. E. G. Price, i gyflawn waith y weinidogaeth, ac i ofalu am Galfaria yn y cyfamser, ac urddwyd ef gan ei dad trwy weddi ac arddodiad dwylaw, nos Fawrth, Chwefror 16eg, 1869, yr hwn hefyd a bennodwyd i gario yn mlaen lawer o'i orchwylion, a bod yn gyfrifol am ei holl drafodaethau arianol i'r gwahanol gymdeithasau, oblegyd yr oedd Price yn fanwl a gofalus iawn mewn materion o'r fath, fel y gwelir oddiwrth ei ol-nodiad i'w ysgrif yn Seren Cymru, Ebrill 9, 1869:

"D.S—Fel yr awgrymais o'r blaen, dymunaf etto ar i'r cyfeillion ddanfon pob arian, yn y drefn arferol, ddichon ddyfod i mi at Edward Gilbert Price Yr wyf wedi llawnodi gweithred reolaidd, yn rhoddi iddo bob gallu ac awdurdod i weithredu droswyf, ac yn ymrwymo hefyd i fod yn gyfrifol am yr oll a fydd iddo ef wneyd yn fy enw yn ystod fy absenoldeb. Y mae achosion y cymdeithasau oll yn eglur a rhwydd, fel na fydd i neb gael trafferth trwy fy absenoldeb.

"T.P."

Nid myned i'r America, fel llawer yn y blynyddau hyn, i weled a mwynhau ei hun yr oedd y Dr. Bu y daith yn bleserus iddo, ac ennillodd lawer o wybodaeth a phrofiad drwyddi; ond ei brif neges oedd myned ar gais taer a difrifol Pwyllgor y Gymdeithas Genadol yn Llundain dros Gymdeithas Genadol Wyddelig y Bedyddwyr, er ceisio ychwanegu at ei thrysorfa, yn ngwyneb y cyfnewidiadau pwysig oeddynt yn debyg o gymmeryd lle yn yr Iwerddon