Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn y ddwy flynedd ddylynol. Ond er mai hyna oedd ei brif neges, yr oedd wedi gwneyd ammod â'r Pwyllgor i gael misoedd Mai, Mehefin, a Gorphenaf iddo ei hun, i ymweled â'r sefydliadau Cymreig yn ngwlad y Gorllewin. Cyn ei ymadawiad i'r America, bu dair wythnos yn yr Iwerddon, er gweled maes llafur ein cenadon yno, a chynnal cynnadleddau brawdol gyda hwynt.

Boreu dydd Llun, Mawrth y 1af, 1869, cychwynodd i'r daith hon, ac yn ol ei ddyddiadur, cyrhaeddodd Gaergybi y noson hono. Cawn y crybwyllion canlynol yn ei "Nodion Gwasgaredig" yn Seren Cymru am Ebrill yr 2il, 1869, am y noson hon:—

"Cefais y fraint o dreulio noswaith o dan gronglwyd y Frondeg, lle yr oedd Mrs. Lewis wedi newydd anrhegu ei phriod anwyl â thlws hardd gwerthfawr, i fod yn ychwanegiad at y teulu gwerthfawr a dedwydd hwn. Yn y boreu cefais y fraint o dreulio ychydig amser ar ymweliad â'r Hybarch Ddr. Morgan. Mae ef yn wanaidd ei iechyd, ond yn para yn serchus a llon ei galon, a boddlon ei yspryd. Mae eglwys barchus Caergybi yn gofalu yn anrhydeddus am dano yn ei ddyddiau diweddaf."

Gan nad yw y daith i'r Iwerddon yn un faith, dichon mai nid annyddorol fydd cael gwybod am ei threfn, yn nghyd â'r gwaith a gyflawnodd y Dr. ar hyd—ddi. Wele yn canlyn ei hanes fel yr ysgrifenwyd ef ganddo ei hun yn ei ddyddiadur. Mae yn cychwyn yn awr wrth gwrs o Gaergybi:—

1869—Mawrth 2 Dublin
3 Agoriad Dafydd Dublin
4 Little Maid Bambridge
5 Address to hearers Do
" Address to the School Do
6 Mission Tandragee
7 Address Belfast
8 Great Commission Do
" Key of David Whiteabbey
" Little Maid Carrickfergus
9 Little Maid Portadown
10 Address to School Do
" The Widow Donoughmore