Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMWELIAD Y PARCH. T. PRICE, M.A., PH.D., O ABERDAR, A'R TALAETHAU UNEDIG.

GAN Y PARCH. DDr. FRED EVANS, PHILADELPHIA.

Ymadawodd Dr. Price ag Aberdar ar y 5ed o Ebrill, 1869. a chychwynodd o Lerpwl yn y City of Antwerp ar y 7fed, a glaniodd yn iach a dyogel ar yr 20fed yn Efrog Newydd. Ei gwmni oedd ei anwyl ferch Emily, yr hon a deithiodd gydag ef rai miloedd o filldiroedd, a'r hon a fu o gysur a chefnogaeth iddo yn y wlad. Gydag ef hefyd y daeth y Parch. Mr. Henry o Belfast, Iwerddon. Gwaith y ddau oedd cynnrychioli Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. Y prif gynnrychiolydd oedd y Dr. Price, a disgynodd y rhan drymaf o'r gwaith arno ef. Ni fu yn Efrog Newydd ond ychydig oriau cyn iddo ddechreu yn ddifrifol ar ei waith: galwodd gyda swyddogion yr American Bible Union, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, a'r Gymdeithas Gyhoeddiadol. Yma cyfarfu â'r enwog Dr. Armitage, un o gewri y Pwlpud Bedyddiedig yn America, a buont yn gyfeillion mynwesol hyd angeu y Dr. Y Sul wedi iddo lanio pregethodd yn Saesneg yn nghapel Dr. Sarles, yn Brooklyn yn y boreu, yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn Efrog Newydd am ddau, ac yn nghapel eang H. M. Gallegher, Ll.D., yn yr hwyr.[1] Cafodd amser gogoneddus, a'r bobl yn hoeliedig wrth ei wefusau. Yr oedd Dr Gallagher yn un o'r gweinidogion mwyaf poblogaidd yn Brooklyn—y nesaf at Henry Ward Beecher. Yr oedd yn llawn arabedd a thân, a gwelai y gynnulleidfa enfawr debygrwydd neillduol rhwng y Doctor o Aberdar a'r Doctor o Brooklyn. Aeth y si am dano drwy y dinasoedd mewn amser byr, a mawr fel y ceisient ganddo bregethu yn y prif bwlpudau. Yn ystod yr wythnos hon gwelodd rai o brif ddynion New York, a gwnaeth argraff dda ar bob un o honynt.

Ar y 27ain cychwynodd am Hyde Park, Pennsylvania, a bu yma byd y 3ydd o Fai. Yr oedd ei gyfaill, y Parch. Fred Evans (Ednyfed), yn weinidog y pryd hwnw ar yr eglwys Gymreig yn y lle. Yr oedd y capel eang yn newydd, a chynnaliwyd y cyfarfodydd agoriadol ar yr adeg hon. Yr oedd yn bresenol fel pregethwyr y Parchn. William Morgan, Pottsville; Theophilus Jones, Wilkesbarre; John P. Harris

  1. Yn Seren Cymru am Mai yr 21ain, 1869, cawn y nodiad canlynol:— Yn yr hwyr yr oedd eglwys fawr y Parch. Mr. Galegher, Brooklyn, wedi ei llenwi, ac yr oedd yno amryw Gymry parchus hefyd yn mhlith y gynnulleidfa. Cyflwynwyd y Dr gan weinidog y lle yn ei ddull arabaidd ei hun: dywedai y byddai y doethion yn dyfod yn y cynoesoedd o'r Dwyrain, ac fod ymweliad Dr Price o Gymru i America yn profi nad oedd eu hiliogaeth wedi llwyr ddarfod etto."