Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(Ieuan Ddu), Cattaraugus; John James, Pittston; Richard Edwards, Pottsville; John Evans. Providence; a P. L. Davies, Camden, N.J. Mae tri o'r brodyr hyn wedi cyfarfod cyn hyn â Dr. Price yn ngwlad yr aur delynau. Pregethodd gyda hwyliau neillduol yn Hyde Park i gynnulleidfaoedd hynod o luosog. Nid annghofir am y tro hwn. Cychwynodd o Hyde Park a Scranton ar y 3ydd, a chawn ef o flaen cyfarfod y gweinidogion yn Efrog Newydd. Trwy ei sirioldeb naturiol, ei arabedd anwrthwynebol, a'i genadwri odidog, gwnaeth argraff annileadwy ar y gweinidogion, ac agorasant ddrysau eu pwlpudau iddo o led y pen. Wedi talu ymweliad â Philadelphia ac ymgomio â'r awdurdodau yno parthed ei waith, aeth i Boston i gyfarfodydd yr Undeb, ac yma gosododd gerbron y gwahanol gymdeithasau hawliau y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. Gwyddent wrth ei dân mai Cymro oedd, ond parod oeddent i gredu oddiwrth ei arabedd mai Gwyddel oedd. Nid gwaith hawdd yw i ddyeithrddyn gael caniatad i osod gerbron y cyfarfodydd blynyddol hyn bwnc na pherthyn yn uniongyrchol iddynt hwy, ond y fath oedd taerni a phenderfyniad Dr. Price fel y llwyddodd.

Ar y 1af a'r 2il o Fehefin, cawn ef yn Nghymmanfa Ddwyreiniol New Jersey. Efe a'r anfarwol Dr. Richard Fuller, o Baltimore, oeddynt y ddau ymwelydd, a phregethasant gyda dylanwad ac arddeliad neillduol; yn wir, yr oedd yn beth anhawdd cael gafael mewn dau bregethwr yn yr un cyfarfod o ddoniau y brodyr hyn.

"Aeth oddiyma i Richmond yn Virginia, ac yma gwelodd bethau a'u boddlonent ac a'u llanwent â digllonedd. Yr oedd teimlad y de yn gryf yn erbyn y gogledd, a chynddeiriogrwydd pobl y de yn fawr oblegyd diddymiad y gaethfasnach. Yr oedd Dr. Price yn elyn llym i'r gaethfasnach, a chas oedd ganddo yr enw caethiwed. Nid oedd hyn ond pedair blynedd wedi terfyniad y rhyfel a llofruddiad Lincoln. Mae yn Richmond, prifddinas y de, filoedd lawer o bobl yn dduon, ac yr oedd ei gydymdeimlad gyda hwy, a phregethodd iddynt. Cafodd filoedd i'w wrandaw, ac ni chafodd fwy o hwyl erioed yn Nghymru nag a gafodd yma. Wylent, chwerthinent, neidient a bloeddient, tra y pregethai efe iddynt, ac weithiau cymmaint oedd eu hwyl fel y gorfu iddo ddystewi am ychydig. Pregethodd yn nghapel eang y Parch. John Jasper, eglwys o bobl dduon o fwy na phedair mil o aelodau. Yr oedd yn wledd i wrando ar y Dr. yn adrodd hanes ei arosiad yn Rich- mond. Trodd ei gefn ar y de, a chawn ef yn Upland, Swydd Delaware, Pensylvania, ar y gfed o Fehefin. Yn Upland y mae Crozer Theological Seminary. Sylfaenwyd y coleg hwn trwy haelioni y boneddwyr Samuel, Lewis, George, a Robert Crozer—pedwar brawd. Dyma y cyfarfod blynyddol cyntaf, ac yn mhlith y myfyrwyr cyntaf a raddiwyd yma