cawn Mr. J. T. Griffiths, un o fechgyn y Pyle a Mountain Ash. Mae yn awr yn weinidog yn Mhensylvania. Yr oedd yr enwog ysgolhaig, William R. Williams, D.D, o Efrog Newydd, i draddodi anerchiad yn y cyfarfod hwn; ond lluddiwyd ef oblegyd afiechyd, a chymmerodd y Parch. George Dane Braidman, llysfab yr enwog Judson, ei le. Traddododd Dr. Price amryw o anerchiadau yno, a chafodd hwyl uchel bob tro. Treuliodd beth amser yn Philadelphia, ac iechyd i'w galon oedd gweled olion yr hen Gymry gynt ar y ddinas enwog hon. Elai ar dân wrth weled enwau Cymreig rai o'r gorsafau ar y rheilffyrdd yn agos i Philadelphia, megys Brynmawr, Penllyn, Bala, Cynwyd, Berwyn, &c., &c.
Yn yr haf hwn ordeiniwyd y brawd serchog Mr. Llewelyn Llewelyn yn weinidog ar yr eglwys yn Frostburg, Maryland. Y ddau bregethwr oeddynt Dr. Price ac Ednyfed. Pregethodd y brodyr amryw droion yn Saesneg a Chymraeg, a thraddodasant ddwy ddarlith. Testyn darlith Dr. Price oedd "Y Beibl," a thestyn Ednyfed oedd "Garibaldi." Yr oedd y pryd hwn yn boeth iawn, a dyoddefodd y Dr. yn erwin ar brydiau oblegyd y gwres.
Cyrhaeddodd Pittston ar y 23ain o Orphenaf, a llettyodd yn nhy ei hen gyfaill mynwesol y Parch. B. D. Thomas, gynt o Gastellnedd, ac yn awr o Toronto, Canada. Ar y 24ain cawn ef yn nghyfarfodydd blynyddol Prif Ysgol Lewisburgh. Pregethodd yno foreu y Sul, ac fel hyn y dywed y National Baptist, papyr wythnosol yr enwad yn Mhennsylvania, "The sermon is highly spoken of, and will strengthen the impression already made by Dr. Price as a genial man and earnest Christian." Y dydd Llun canlynol traddodwyd anerchiad galluog iawn gan Theodore Tilton, hen elyn Beecher. Wedi bwyta y giniaw flynyddol, galwyd ar amryw i draddodi anerchiadau byrion, ond ni chafodd un gymmaint o hwyl â Dr. Price. Anhawdd oedd cael unrhyw un yn fwy hapus ar y fath achlysur nâ Price Penpound.
"Treuliodd ychydig o amser yn Utica, a mwynhaodd ei hun yn dda yno gyda'r cannoedd Cymry a'r Ianciod hefyd. Taflodd Dr. Corey ddrws ei gapel yn agored iddo, a chafodd dderbyniad tywysogaidd gan hil Gomer ac hil Jonathan. Ymwelodd ag Albany, Saratoga, ar ei ffordd tuag Utica, ac aeth o Utica i Hamilton, lle y mae Madison University. Cafwyd cyfarfod hynod o bwysig yma, a bu o ddaioni mawr i'w waith ef dros y Gwyddelod. Yn awr, teimlai yn lled galonog. Yr oedd yn awyddus iawn i weled Rhaiadrau Niagara; a mawr fel y dymunai Emily gael golwg ar y rhyfeddodau hyn; ac ar y 9fed o Awst edrychent yn syn ar y dyfroedd yn disgyn a'r berw i waered. Tynodd ei het ffwrdd pan y gwelodd y fath amlygiad o allu Jehovah. Ni flinai