Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adrodd ei brofiad pan y syllodd gyntaf ar y Rhaiadrau, ac ar y dyfroedd berwedig a'r chwyrnbyllau cynddeiriog. Oddiyma aeth i Canada, ac ymwelodd â Hamilton, Toronto, Brookfield, Montreal, Quebec, ac amryw leoedd ereill. Treuliodd yn Canada dros ddwy wythnos, a siaradodd a phregethodd yn y prif leoedd, a theimlai i raddau yn gartrefol yno. Croesodd y St. Lawrence, ac ymwelodd â rhanau o Dalaethau Maine a Massachusetts. Yr oedd yn awyddus iawn i weled y ddaear a sangwyd gan yr anfarwol Roger Williams: cafodd ei ddymuniad, canys treuliodd beth amser yn Providence, Rhode Island, ac ymwelodd â Phrif Ysgol Brown. Er fod yr athrawon a'r myfyrwyr oddi yno ar y pryd, iechyd i'w galon oedd gweled yr adeiladau gwychion, a syllu ar ambell lyfr Cymreig. Yn mhen ychydig ddyddiau cawn ef etto yn Mhrif Ysgol Brown yn y cyfarfod blynyddol. Clywid ei lais yn fynych yn Massachusetts. Yn nghymmanfa Boston pregethodd gyda yr enwog Ddr. Weston, llywydd Coleg Crozer. Daeth yn ol i New York erbyn y dydd bythgofiadwy yr hwn a elwir Black Friday. Dyma eiriau y Doctor ei hun gyda golwg ar y dydd tywyll hwn: "Dydd Gwener cawsom New York yn y cynhwrf mwyaf a fu ynddi erioed. Yr oedd ar fin trancedigaeth fasnachol. Nid oedd neb yn fyw yn cofio y fath ddiwrnod yma â dydd Gwener diweddaf. Bu y byd masnachol yma ar fin dinystr hollol." Yn ddiau, dydd rhyfedd oedd. Methodd y banciau, aeth y masnachwyr yn wallgof, a du oedd y cyfan. Yn ddiau, dygwyd hyn oddiamgylch gan gamblers diegwyddor, a speculators creulawn. Y Sul ar ol hyn, pregethodd yn Eglwys Dr. Thomas Armitage Credai Armitage mai Thomas Jones, Dreforris gynt, wedi hyny o Lundain, Melbourne, ac Abertawe, oedd y pregethwr goreu yn y byd, ac mai Tom Price, Aberdar, oedd yr ail. Iechyd i'w galon oedd gwrandaw ar y Dr. yn pregethu. Pregethodd hefyd yn Brooklyn a Williamsburg.

"Dechreu mis Hydref glaniodd ei gyfaill mynwesol Dr. Todd yn Efrog Newydd, ac fel hyn y dywed y National Baptist am hyny:— 'Rev. J. W. Todd, Pastor of the Baptist Congregation at Sydenham, London, has just arrived in the United States. He comes for recreation and to cultivate the acquaintanceship of his American brethren, and to do something incidentally as the coadjutor of our excellent friends Price and Henry in behalf of Irish Baptist Missions."

“Tua diwedd mis Hydref, ymwelodd â Cincinnati, Ohio, a Louisville, Kentucky. Yn Cincinnati daeth i gysswllt ag amryw Gymry; yn wir, nis gwn am neb a gasglodd gymmaint o wybodaeth am y Cymry yn America mewn amser mor fyr. Ni phetrusodd i ddweyd lawer gwaith wrth yr Americaniaid eu bod yn fwy dyledus i'r Cymry nag i