Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un genedl arall. Yr oedd yn berffaith gartrefol yn hanes y Cymry a ffurfiasant yr Eglwysi Bedyddiedig cyntaf yn Mhennsylvania. Soniai am yr hen frodyr o Rydwilym, Llanfyrnach, Dolau, &c., y rhai a ffurfiasant yr eglwysi yn Penypec, Dyffryn Mawr, Welsh Tract, &c., fel pe yn gyfarwydd â hwynt yn bersonol. Ar yr 2il a'r 4ydd o Dachwedd cawn ef yn St. Louis, prif ddinas Missouri: mae yno gyda y fath gewri â'r Doctoriaid Henson, Boardman, Manly, Spalding ac ereill. Y cyfarfod mawr hwn yw Cyfarfod Cenedlaethol yr Ysgol Sul; mae yma genadon o bob parth, ac un o'r anerchiadau mwyaf hyawdl, ffraeth a nerthol a draddodwyd ydoedd eiddo Dr. Price ar "Yr Ysgol Sul yn Nghymru." Argraffwyd yr anerchiad yn lled lawn yn amryw o'n papyrau, a chyfieithwyd yr adroddiad cyflawnaf o hono gan y Parch. J. T. Griffiths, Lansdale, Pa., ac ymddangosodd yn Y Wawr am fis Mai, 1888. Yn yr anerchiad rhagorol hwn rhoddodd lawer o'i brofiad ei hun. Wrth gefnogi athrawon yr Ysgol, dywedodd, 'Rhoddaf un enghraifft o ddosparth mewn cyssylltiad â'r eglwys yn yr hon y llafuriaf: allan o'r dosparth hwn o ddynion ieuainc, y mae saith yn awr yn weinidogion ac mewn sefyllfaoedd pwysig yn yr eglwysi. Gwelais un yn ddiweddar yn Nhalaeth Michigan, un arall yn Ohio, ac o'r lleill, y mae dau yn Lloegr, un yn Twrci, tra y mae yr wythfed yn Athrofa Crozer yn agos i Philadelphia, Pa.' Cafodd ei anerchiad y derbyniad mwyaf brwdfrydig.

"Treuliodd ychydig o ddyddiau yn Chicago, ac yma, fel yn y lleoedd ereill, gwnaeth ei neges yn hyspys. Yn awr, dychwela o'i daith Orllewinol, a geilw yn Cleveland a Pittsburgh ar y ffordd. Cafodd wledd yn nghwmpeini yr Hybarch William Owen, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog Eglwys Chatham St. Genedigol oedd William Owen o Landebie, Sir Gaer. Ni chafodd nemawr ysgol, ond yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf galluog; yr oedd yn enwog am ei arabedd, a mwyniant i bawb oedd gwrandaw ar y wit o Aberdar a'r wit arall o Pittsburgh yn ymddyddan â'u gilydd.

"Cyrhaeddodd New York erbyn rhan olaf Tachwedd, a phregethodd yn eglwysi Dr. Armitage a Dr. Evans (Ednyfed): ymadawodd Ednyfed â Hyde Park yn mis Tachwedd, a threuliodd y ddau frawd a chyfaill amser dyddan gyda'u gilydd. Ar yr adeg hon, ymwelodd Llew Llwyfo a'i barti ag Efrog Newydd, a chynnaliasant gyngherdd yn un o'r capeli Cymreig. Cadeiriwyd gan Ednyfed; ac ar ddiwedd y gyngherdd ragorol, galwyd ar Dr. Price i ddweyd gair. Dywedodd, 'Mae yn dda genyf weled cymmaint o bobl yn nghyngherdd y Llew: yr wyf yn ei adwaen er ys blynyddoedd, a gallaf eich sicrhau o un peth-nid oes wahaniaeth pa faint o arian a roddwch i'r Llew, y mae yn sicr o'u