gadael ar ei ol yma i gyd.' Wrth bregethu am y tro cyntaf yn nghapel Armitage, defnyddiodd iaith goeth a chlasurol, a thebyg nad oedd yn meddu y rhyddid arferol. Ar ddiwedd yr oedfa aeth Dr. Armitage, a dywedodd wrtho, 'Don't they call you Tom Price, Aberdar, in Wales? Yes.' And you preach like Tom Price there?' 'Yes.' 'Now, friend Price, you tried to preach like Dr. Price this morning, and you did not enjoy the usual freedom, did you?' 'No, indeed.' 'Now, Dr. Price, let me give you a word of advice. While in this country be yourself, be Tom Price, Aberdar, and you'll carry everything before you.' Diolchodd Dr. Price iddo, a gwnaeth ei gynghor, a llwyddodd yn mhob man.
"Dywed yr American Baptist am dano yn Nghymmanfa East New Jersey, fel hyn: The other preacher was imported from beyond the Atlantic Rev. Dr. Price of Wales—who was listened to with the deepest interest on Wednesday evening, while he discoursed to us burning truths from Ezekiel's vision of the dry bones. Dr. Price made a telling address in advocacy of the cause he represents.' Gallem luosogi dyfyniadau fel yr uchod pe yn angenrheidiol. Cododd y Dr. genedl y Cymry yn ngolwg yr Americaniaid. Yn Brooklyn, yn nghyfarfod y gweinidogion. rhoddodd sketch o'r bregeth a draddododd y Sul blaenorol, ac wedi iddo derfynu, cododd yr enwog Dr. Wayland Hoyt ar ei draed a dywedodd, 'After all, it takes a Welshman to preach the Gospel.
"Daeth galwadau am ei lafur o wahanol fanau. Gweithiodd yn galed tra yn America, a gwnaeth argraffiadau ar feddyliau y bobl y bydd yn anmhossibl i amser eu dileu. Treuliodd oddicartref yn agos i ddwy ran o dair o'r flwyddyn 1869; teithiodd yn agos i dair mil ar ugain o filldiroedd; a phregethodd, darlithiodd, siaradodd dros dri chant a hanner o droion. Gwnaeth les dirfawr tra yma, a galarai y bobl oblegyd na arosasai yn barhaus yn eu gwlad. Bu arosiad ei anwyl Emily yn fwyniant mawr iddi hi ac i gannoedd o gyfeillion,—mae enwau y tad a'r ferch yn perarogli yno yn awr.
"Yr oedd dydd ei ymadawiad yn agoshau, a phenderfynodd ychydig o'i gyfeillion gael cyfarfod ymadawol iddo yn nhŷ yr enwog ysgolhaig a'r boneddwr pur W. B. Jones (Ap P. A. Mon), yn Livingston Street, Brooklyn. Cafwyd cyfarfod ardderchog,—llawn o hwyl, arabedd, a theimlad. A ganlyn yw hanes y cyfarfod fel yr ymddangosodd yn y New York Tribune, dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, 1869,—y mae yn amlygu natur y cyfarfod.
"The Rev. Dr. Price's Return to Wales.
""A very pleasant affair took place on Thursday Evening at the residence of Mr. William B. Jones, 150, Livingston Street, Brooklyn,