Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddynt nag yn y cylch gwleidyddol. Mawr yw y prynu a'r gwerthu, y cynffoni a'r bradychu, sydd wedi bod yn y byd gwleidyddol erioed; ac ymddengys, yn ol arwyddion diweddar, fod dynion yn myned yn fwy corsenaidd fyth: chwythir hwy i unrhyw a phob rhyw gyfeiriad ond y cyfeiriad y dylent ymsefydlu yn ddiysgog ynddo. Y mae yr anwadal, y cyfnewidiol, a'r ansicr i'w cael o hyd—"y cyrs yn cael eu hysgwyd gan wynt." Y mae yr hunangeisiol yn lluosog yn y byd, ac yn caru esmwythyd: y "dorth a'r cosyn" a'r "dillad esmwyth" yw y cwbl a'u llywodraethant. Rhaid cael egwyddor y proffwyd i wneyd dyn gonest, sefydlog—un a saif hyd bod yn ferthyr dros egwyddor a gwirionedd.

Dichon fod y profedigaethau osodir o flaen dynion yn y byd gwleidyddol yn fwy nerthol ac effeithiol i'w gwneyd yn llechwraidd a bradwrus nag mewn cylchoedd ereill. Gellir rhoddi y cusan bradwrus yn fwy dirgel yn y Tugel na "cherbron y dyrfa," ac y mae yn bossibl y bydd y weithred gythreulig wedi codi i bris uwch na deg-ar-ugain o arian." Ond tra y mae llawer o gymmeriadau isel a diegwyddor i'w cael—rhai a fradychant eu hegwyddorion ac a werthent eu holl hawlfreintiau am lai o werth nag a wnaeth Esau—gallwn ymffrostio mewn llawer o ddynion egwyddorol, gonest, sefydlog, a diysgog yn eu hymlyniadau gwleidyddol. Un o'r cyfryw oedd yr hybarch Ddr. Price. Yr oedd yn Rhyddfrydwr o argyhoeddiad ac egwyddor. Nis gallasai fod yn ddim arall. Cafodd ei osod ar brawf yn fynych. Gofynwyd iddo lawer tro ymgrymu yn wleidyddol gerbron y ddelw aur, ond nid oedd dim swyn ynddi iddo ef. Gwell fuasai ganddo dori na phlygu ger ei bron. Yr oedd ei galon yn rhy bur, ei feddwl yn rhy oleuedig, a'i argyhoeddiadau yn rhy ddyfnion a dwys, iddo ef gusanu yn fradwrus Ymneillduaeth ac Annghydffurfiaeth, ac felly eu gwerthu i'w gelynion. Rhoddodd brawfion boreuol o hyn; oblegyd cawn ef pan yn ddyn ieuanc yn gosod ei fwyall ar wreiddyn pren Toriaeth, ac yn ergydio yn effeithiol ar ei thrais a'i gormes; ac nid ymataliodd ei defnyddio hyd ei fedd. Yn ei ysgrif alluog ar Dr. Price yn y Geninen am Orphenaf, 1888, dywed Dr. Morgan (Lleurwg):—

"Ar ddechreuad ei weinidogaeth yr oedd Rhyddfrydwyr Aberdar, fel llawer o blwyfau ereill yn y Deyrnas, yn teimlo yn bur anesmwyth